Ffurfio fformiwlâu ïonig
Pan mae metelau’n adweithio ag anfetelau, mae electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. yn cael eu trosglwyddo o’r atomau metel i’r atomau anfetel, gan ffurfio ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au).. Enw’r math hwn o gyfansoddyn yw cyfansoddyn ïonigMae cyfansoddyn ïonig yn digwydd pan mae ïon negatif (atom sydd wedi ennill electron) yn cysylltu ag ïon positif (atom sydd wedi colli electron). Mae’r ïonau’n cyfnewid electronau i greu plisgyn allanol llawn..
Mae adweithiau rhwng metelau ac anfetelau’n cynnwys:
- sodiwm + clorin → sodiwm clorid
- magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
- calsiwm + clorin → calsiwm clorid
- potasiwm + ocsigen → potasiwm ocsid
- alwminiwm + ocsigen → alwminiwm ocsid
Does dim angen manylion am sut mae ïonau’n ffurfio yn y testun hwn. Yn Uned 1 mae disgwyl i ti allu defnyddio’r tabl o ïonau cyffredin i ganfod yr ïonau sy’n bresennol mewn cyfansoddyn ac yna llunio fformiwla’r cyfansoddyn o’r ïonau.
Sodiwm clorid
- Canfod yr ïonau – mae sodiwm clorid yn cynnwys ïonau sodiwm (Na+) ac ïonau clorid (Cl-).
- Canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm gwefrPriodwedd mater sy’n achosi grym os yw e’n agos i wefr arall. Mae dau fath o wefr, sef positif a negatif. Er enghraifft, mae gwefr negatif yn achosi grym gwrthyrru ar wefr negatif gyfagos. cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Mae hyn yn golygu bod angen yr un nifer o wefrau positif ag o wefrau negatif. Gan fod gan y sodiwm un wefr bositif a’r clorid un wefr negatif, dim ond un o bob un sydd ei angen i ganslo’r gwefrau.
- Llunio’r fformiwla – mae angen un o bob ïon. Mae hyn yn arwain at fformiwla o NaCl.
Weithiau mae fformiwla ïonig yn cynnwys ïonau cyfansawdd – grŵp o atomau sy’n bondio â’i gilydd, â gwefr gyffredinol.
Magnesiwm hydrocsid
- Canfod yr ïonau – mae magnesiwm hydrocsid yn cynnwys ïonau magnesiwm (Mg2+) ac ïonau hydrocsid (OH-).
- Canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm gwefr cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Yn yr achos hwn, mae gan fagnesiwm ddwy wefr bositif sy’n golygu bod angen dau grŵp hydrocsid i ganslo’r gwefrau’n llwyr.
- Llunio’r fformiwla – mae angen un ïon magnesiwm a dau ïon hydrocsid. Gan fod ïonau hydrocsid wedi’u gwneud o grŵp o atomau, rhaid i ni eu rhoi nhw mewn cromfachau yn y fformiwla. Mae hyn yn arwain at fformiwla o Mg(OH)2.
Dyma ïonau cyfansawdd eraill sy’n cael eu defnyddio:
- carbonad (CO32-)
- sylffad (SO42-)
- nitrad (NO3-)
- amoniwm (NH4+)
Haearn(III) ocsid
Yn gyntaf, rhaid adnabod yr ïonau – mae haearn(III) ocsid yn cynnwys ïonau haearn(III) (Fe3+) ac ïonau ocsid (O2-).
Nesaf, rhaid canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm gwefr cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael yr un nifer o wefrau positif ag o wefrau negatif. Gan fod gan yr haearn dair gwefr bositif a’r ocsid ddwy wefr negatif, yr unig ffordd o ganslo’r gwefrau yw cael chwech o bob un. Mae hyn yn golygu bod angen dau ïon haearn a thri ïon ocsid.
Enghraifft
Yn olaf, rhaid llunio’r fformiwla – mae angen dau ïon haearn a thri ïon ocsid. Mae hyn yn arwain at fformiwla o Fe2O3.
Dydy gwefrau’r ïonau yn fformiwla’r cyfansoddyn ddim yn cael eu hysgrifennu. Mae nifer yr ïonau o bob elfen yn cael ei ysgrifennu fel rhif isysgrifLlythyren neu rif wedi’i ysgrifennu o dan y llinell. ar ôl y symbol atomig.