Fformiwlâu
Mae fformiwla gemegol cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. yn dangos faint o bob math o atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. sy’n uno â’i gilydd i wneud yr unedau sy’n gwneud y cyfansoddyn.
Er enghraifft, mewn haearn sylffid mae pob atom haearn yn bondio ag un atom sylffwr, felly rydyn ni’n dangos ei fformiwla fel FeS. Mewn sodiwm ocsid, mae dau atom sodiwm i bob atom ocsigen, felly rydyn ni’n dangos ei fformiwla fel Na2O. Sylwa fod y ‘2’ wedi’i ysgrifennu fel isysgrifLlythyren neu rif wedi’i ysgrifennu o dan y llinell., felly byddai ysgrifennu Na2O yn anghywir.
Mae’r diagram hwn yn dangos bod un atom carbon a dau atom ocsigen yn uno i wneud unedau carbon deuocsid. Rydyn ni’n ysgrifennu ei fformiwla gemegol fel CO2.
Efallai y bydd gofyn i ti ddefnyddio allwedd i luniadu dy ddiagram dy hun o foleciwl, er enghraifft:
Gan ddefnyddio’r allwedd hwn, bydden ni’n cynrychioli’r moleciwlau SH2 ac NH3 fel a ganlyn.
Weithiau, byddi di’n gweld fformiwlâu mwy cymhleth fel Na2SO4 a Fe(OH)3:
- mae un uned Na2SO4 yn cynnwys 2 atom sodiwm, 1 atom sylffwr a 4 atom ocsigen wedi uno â’i gilydd – mae hyn yn gwneud cyfanswm o 7 atom
- mae un uned Fe(OH)3 yn cynnwys 1 atom haearn, 3 atom ocsigen a 3 atom hydrogen – mae’r cromfachau’n dangos bod y 3 yn berthnasol i O ac i H – mae hyn yn gwneud cyfanswm o 7 atom