Elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau
Elfen
- Sylwedd pur sydd wedi’i restru yn y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol. ac yn cynnwys un math o atom yn unig.
- Mae dros 100 o elfennau.
- Metelau yw’r rhan fwyaf, mae rhai’n feteloidau neu led-fetelau, ac mae’r gweddill yn anfetelau.
Cyfansoddyn
- Sylwedd pur sydd wedi’i wneud o fwy nag un math o elfen wedi bondio’n gemegol â’i gilydd.
- Mae elfennau’n bondio mewn cymarebau penodol, felly gallwn ni eu cynrychioli nhw â fformiwla gemegol. Er enghraifft, mae gan sodiwm clorid yr un nifer o ïonau sodiwm ac ïonau clorid, felly ei fformiwla yw NaCl, ond mae dŵr bob amser yn cynnwys dwywaith cymaint o atomau hydrogen ag atomau ocsigen, felly ei fformiwla yw H2O.
Cymysgedd
- Sylwedd amhur sydd wedi’i wneud o wahanol elfennau neu gyfansoddion wedi eu cymysgu â’i gilydd ond sydd heb eu huno yn gemegol.
- Fel arfer, gallwn ni ddefnyddio technegau ffisegol, fel hidloY broses o basio cymysgedd drwy hidlydd fel papur hidlo – mae sylweddau hydawdd yn pasio drwy’r hidlydd fel hidlif, ond mae sylweddau anhydawdd yn aros yn yr hidlydd fel gwaddod. a distylluTechneg gwahanu lle mae hydoddiant yn cael ei wresogi fel bod yr hydoddydd yn anweddu cyn cael ei oeri i ffurfio hylif pur., i wahanu cymysgeddau.
- Mae aer yn gymysgedd sy’n cynnwys yr elfennau nitrogen, ocsigen ac argon, a hefyd y cyfansoddyn carbon deuocsid.