Meim
Gall meim gynnwys:
- gweithio'n dawel, neu gydag ychydig o seiniau neu eiriau, i ddangos gweithgaredd, ee paentio wal neu agor drws
- gweithio gyda deialog ond gan feimio propiau neu set, ee defnyddio'r gynulleidfa fel drych wrth roi colur tra bod y cymeriad yn siarad â chymeriad arall ar y llwyfan
- Theatr Gorfforol, sy'n aml yn cynnwys technegau meim a lle gall actorion hefyd feimio eitemau o set neu bropiau

Charlie Chaplin yn The Great Dictator, 1940 LLUN: Charles Chaplin Productions/Ronald Grant Archive
Roedd y seren ffilm ddi-sain, Charlie Chaplin, yn un o’r perfformwyr meim mwyaf adnabyddus. Cyfrannodd y perfformiwr o Ffrainc, Marcel Marceau a’i gymeriad llwyfan ‘Bip y Clown’ yn helaeth at boblogrwydd y cyfrwng. Disgrifiodd Marceau grefft meim fel celf tawelwch. Drwy wylio ffilmiau o berfformiadau’r artistiaid hyn, cei di weld lefel uchel y sgiliau ar waith.

Y perfformiwr meim Marcel Marceau yn y Geffen Playhouse, 2002 LLUN: Getty Images