Cyfrwng dramaColur

Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Colur

Mae colur yn cael ei ddefnyddio i gryfhau nodweddion wyneb actorion a gwneud yn siŵr nad ydy'r gynulleidfa'n colli mynegiant yr wyneb am fod golau llachar y llwyfan yn gallu 'golchi' nodweddion yr wyneb a gwneud i berfformwyr edrych yn welw.

Mae modd defnyddio colur hefyd i wneud i actor sy'n chwarae cymeriad hŷn edrych fel be baent yr oedran cywir neu greu cymeriad ffantasi, fel y tylwyth teg yn nrama A Midsummer Night’s Dream gan Shakespeare.

Yn draddodiadol, yr enw ar golur llwyfan y gorllewin oedd paent iro, neu greasepaint. Roedd hwn yn sylwedd trwm, seimllyd a byddai actorion yn y gorffennol yn ei ddefnyddio i or-wneud nodweddion wyneb a chymeriad. Erbyn hyn mae colur y llwyfan yn tueddu i fod yn fwy cynnil a naturiolaidd, ond ceir rhai eithriadau. Mae'r math o golur sy'n cael ei ddefnyddio'n dibynnu ar arddull y perfformiad.

Mae colur yn cael ei ddefnyddio'n symbolaidd hefyd. Er enghraifft, yng nghynhyrchiad Theatre Workshop Joan Littlewood, Oh, What a Lovely War!, mae'r actorion sy'n chwarae milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi eu gwisgo fel clowniau Pierrot, gydag wynebau wedi'u peintio'n wyn a gwefusau a llygaid du. Mae hyn yn symbol eu bod yn ffyliaid diniwed, trasig mewn gêm ryfel nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosti.

Etienne Decroux a Jean-Louis Barrault yn perfformio fel clowniau Pierrot, 1945
Image caption,
Etienne Decroux a Jean-Louis Barrault yn perfformio fel clowniau Pierrot, 1945 LLUN: Pathe Consortium Cinema/Societe Nouvelle Pathe Cinema/Ronald Grant Archive

Mae mathau eraill o theatr yn defnyddio colur fel rhan hanfodol o'r perfformiad, ee Kabuki, sy'n defnyddio colur llwyfan coeth i greu cymeriad.

Yr actorion Kabuki Onoe Kikugoro a Nakamura Baigyoku, 2013.
Image caption,
Yr actorion Kabuki Onoe Kikugoro a Nakamura Baigyoku, 2013 LLUN: AFP/Getty Images

More guides on this topic