Symudiad
Symudiad ydy:
- yr actorion yn symud ar y llwyfan, yr hyn mae hynny'n ei gyfleu i'r gynulleidfa ac effaith hyn ar y ddrama
- y dulliau corfforol mae actorion yn eu defnyddio i helpu i greu cymeriadau, ee symud yn gyflym, yn ysgafn neu'n araf
- y ffordd mae actorion yn defnyddio pwysau a gofod i gyfleu cymeriad
- sut mae actorion yn symud mewn perthynas â chymeriadau eraill ar y llwyfan, ee yn ofnus, yn fygythiol neu mewn ffordd gyfeillgar
Mae'r clip Saesneg hwn yn dangos actorion yn y Soho Theatre yn Llundain yn arbrofi gyda symudiad ac iaith y corff. Ydy'r ffordd mae'r actorion yn rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol o gusanu yn newid y ffordd rydyn ni'n darllen perthynas y cymeriadau?
Symudiad a chymhelliad
Wrth ddewis symudiad rhaid ystyried teimladau cymeriad ar unrhyw adeg yn ystod y ddrama, a’r hyn sy'n fwyaf effeithiol yn weledol. Er enghraifft, gallai sefyll yn llonydd mewn ymsonAraith hir sy'n cael ei thraddodi gan un person. emosiynol fod yn bwerus ond gallai fod angen rhagor o gyflymder ac amrywiaeth o symudiadau mewn golygfeydd eraill i gadw sylw'r gynulleidfa.
Ceisia gysylltu symudiad â cymhelliadY bwriad y tu ôl i weithredoedd/geiriau cymeriad. Mae'r cymhelliad yn gyrru'r digwyddiadau/yr hyn sy'n cael ei ddweud mewn golygfa, a gall ddatgelu'r gwir neu ystyr sydd wedi ei guddio, sef yr is-destun. y cymeriad. Gallai syniad newydd ysbrydoli cymeriad i godi o gadair. Galli di hefyd ystyried sut mae emosiynau'n ysbrydoli symudiad. Gallai gwneud penderfyniad anodd achosi i gymeriad gerdded yn ôl ac ymlaen ar draws y llwyfan. Mae'n bosib cyfleu panig drwy ailadrodd symudiadau nerfus sy'n cyflymu wrth i ofn a thensiwn gynyddu.