Cyfrwng dramaDefnyddio meim ac ystum ar lwyfan

Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Defnyddio meim ac ystum ar lwyfan

Meim ydy'r gelfyddyd o ddangos gweithred gyda gwrthrych nad ydy e'n bodoli. Mae'n symudiad disgybledig a manwl iawn. Rhaid i'r actor dalu sylw gofalus i fanylion er mwyn iddo fod yn effeithiol. Os byddi di am i'r gynulleidfa 'gredu' dy fod yn defnyddio gwrthrych, gwna'n siŵr nad ydy e'n 'diflannu' ar ôl i ti orffen ei ddefnyddio. Os byddi di’n meimio yfed mewn parti ac yna bod angen defnyddio dy ddwylo i wneud rhywbeth arall, cofia roi'r gwydr dychmygol i lawr gyntaf.

Mae modd meimio set hefyd ac, unwaith eto, mae'r un egwyddorion yn berthnasol. Pan fydd bwrdd yn cael ei feimio mae angen i'r actorion fod yn ymwybodol ble mae'r 'bwrdd' hwnnw ar y llwyfan. Rhaid iddyn nhw beidio â cherdded drwyddo neu fe gaiff y ddelwedd ei chwalu. Dylen nhw allu gosod pethau arno er mwyn i ni weld ei fod o faint ac uchder cyson.

Gall meimio anniben edrych yn amaturaidd. Os byddi di’n defnyddio meim mewn darn o theatr, gwna'n siŵr dy fod yn ymarfer gwneud symudiadau pendant er mwyn i'r gynulleidfa weld yn glir beth rwyt ti'n ei wneud.

Ymarfer

Meimia wneud cwpaned o de. Meddylia am bob cam y byddet ti'n gorfod ei ddilyn, o godi a llenwi'r tegell, ychwanegu'r llaeth a throi'r te i'w yfed. Cofia dalu sylw i'r manylion a bydd mor fanwl yn dy symudiadau â phosib. Gwna nodyn o'r camau ddefnyddiaist di i wneud y te. A wnest di anghofio unrhyw beth?

Ystum

Simon Watts yn chwarae rhan Aneurin yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Simon Watts yn chwarae rhan Aneurin yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Farrows Creative/Sherman Cymru/Theatr Genedlaethol Cymru

Symudiad sydd wedi ei ddiffinio ydy ystum sy'n cyfleu ystyr yn glir. Mae ysgwyd dwrn yn cyfleu dicter, mae amneidio â bys crwm yn galw rhywun atat ti, ac mae chwythu cusan yn ystum serchog. Beth ydy’r emosiwn sy’n cael ei gyfleu yn y llun uchod o gymeriad Aneurin yn y ddrama Llwyth? Ydy e’n hapus neu ydy’r emosiwn mae’n ei gyfleu yn fwy cymhleth na hynny?

Fel arfer mae ystumiau’n cael eu gwneud gyda'r breichiau a'r dwylo, ond ddim bob tro. Gallai cicio cadair i ffwrdd edrych fel ystum heriol. Byddai actorion mewn yn defnyddio ystumiau mawr dros ben llestri tra bod drama gyfoes yn fwy tebygol o ddefnyddio ystumiau mwy cynnil. Gall ystum fod yn bwerus wrth gyfleu emosiwn pan fydd yn cael ei ddefnyddio gydag iaith y corff a mynegiant wyneb effeithiol. Darllena Disgrifio iaith y corff a Disgrifio mynegiant yr wyneb i ddysgu mwy.

More guides on this topic