Cyfrwng dramaCerddoriaeth a sain

Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Cerddoriaeth a sain

Nid dramâu cerdd yn unig sy'n defnyddio cerddoriaeth a sain. Mae cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi ei recordio yn gallu ychwanegu llawer at gynhyrchiad dramatig. Gellir defnyddio cerddoriaeth ac effeithiau sain i:

  • greu ymdeimlad ac awyrgylch
  • creu tyndra
  • cryfhau emosiwn neu bwysleisio'r gweithgaredd ar y llwyfan
  • helpu i osod yr olygfa
  • nodi newid amser neu leoliad
  • canoli'r sylw ar gymeriad penodol

Pan fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae dan yr olygfa a'i defnyddio i greu ymdeimlad, caiff hyn ei alw'n isgerddoriaeth. Er enghraifft mewn golygfa ar ffordd unig yn y nos gallai isgerddoriaeth ac effeithiau sain brawychus helpu i greu awyrgylch o ofn.

Gwna'n siŵr fod y gerddoriaeth yn cyfoethogi dy ddrama ac nad ydy hi’n tynnu sylw o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan. Mae rhai dramâu’n gweithio'n well heb unrhyw gerddoriaeth o gwbl felly paid ag ychwanegu cerddoriaeth heb reswm da. Rhaid i gyfarwyddwr ystyried arddull ei gynhyrchiad a dethol cerddoriaeth a sain i ategu hynny. Mae rhai dramodwyr yn dweud pa gerddoriaeth maen nhw am ei defnyddio gyda'u sgriptiau. Dynododd y dramodydd, Tennessee Williams y dylid defnyddio cerddoriaeth mewn sawl un o'i ddramâu.

Mae Theatr Gorfforol yn aml yn defnyddio llawer o gerddoriaeth i gyd-fynd â'r gwaith symud ar y llwyfan gan ei fod yn aml yn agos iawn at ddawns. Mae hyn yn bwysig i roi egni, cyflymder a rhythm i'r gwaith.

Mewn gwaith annaturiolaidd, byddai’n bosib defnyddio cerddoriaeth yn eironig gan chwarae yn erbyn y cynnwys ar y llwyfan. Mae hyn yn dweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan. Er enghraifft, os ydy cymeriad wedi gwneud penderfyniadau gwael ac yn digalonni, gallet ti ddefnyddio isgerddoriaeth sy’n cynnwys darn hapus. Byddai hyn yn enghraifft o ddefnyddio eironi i bwysleisio ei boen. Gall defnyddio cerddoriaeth yn y modd hwn fod yn dda iawn wrth greu gwaith sy'n gomig neu sy'n cynnwys 'hiwmor du'.

Enghraifft o hyn fyddai yn y ffilm Reservoir Dogs, a gyfarwyddwyd gan Quentin Tarantino, lle mae golygfa arteithio greulon wedi ei chyfosod â dewis o gân bop hwyliog yn y cefndir, Stuck in the Middle with You.

More guides on this topic