Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolAngladdau Iddewig

Mae bywyd ar ôl marwolaeth yn gysyniad sylfaenol i'r rhan fwyaf o grefyddau. Mae safbwyntiau Iddewig am farwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth yn cynnwys y gred mewn Nefoedd ac Uffern. Fel arfer ceir cysylltiad agos iawn rhwng defodau angladdol Iddewig a'u credoau am fywyd ar ôl marwolaeth.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Angladdau Iddewig

Ni roddir blodau mewn angladd Iddewig ac mae’r gwasanaeth yn fyr. Nid yw fel arfer yn caniatáu amlosgi ond bydd weithiau’n amlosgi’r meirw.

Ar ôl claddu gofynnir bendith: Boed i Dd-w eich cysuro ymhlith holl alarwyr Seion a Jerusalem.

Shiva

Bydd y teulu’n dychwelyd adref i eistedd Shiva. Ystyr Shiva yw ‘saith’, gan mai defod alaru saith diwrnod yw hon. Am y saith diwrnod nesaf bydd cannwyll yn cael ei chadw ynghyn a bydd pob drych yn y tŷ wedi’i orchuddio. Bydd y galarwyr yn aros gartref, heb eillio na thorri eu gwallt, a gan eistedd ar stolion isel.

Kaddish

Bydd gweddi a adroddir yn gyhoeddus gan alarwyr, sef y Kaddish, yn cael ei dweud dair gwaith y dydd. Dim ond y Saboth neu ŵyl Iddewig all dorri Shiva. Yn y 30 diwrnod ar ôl y claddu, neu Sheloshim, fydd galarwyr ddim yn mynd allan er pleser, a byddant yn parhau i alaru.

Am yr unarddeg mis nesaf dywedir Kaddish bob dydd. O hynny ymlaen, caiff y person marw ei gofio bob blwyddyn ar ddyddiad eu marwolaeth drwy gynnau cannwyll Yahrzeit ac adrodd Kaddish.

Ychydig cyn i flwyddyn fynd heibio gosodir carreg ar y bedd. Pan fydd pobl yn ymweld â bedd Iddewig byddant yn gosod carreg fach ar y garreg fedd fel arwydd o barch.

More guides on this topic