Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolIddewiaeth: bywyd wedi marwolaeth

Mae bywyd ar ôl marwolaeth yn gysyniad sylfaenol i'r rhan fwyaf o grefyddau. Mae safbwyntiau Iddewig am farwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth yn cynnwys y gred mewn Nefoedd ac Uffern. Fel arfer ceir cysylltiad agos iawn rhwng defodau angladdol Iddewig a'u credoau am fywyd ar ôl marwolaeth.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu am fywyd wedi marwolaeth?

Er bod Iddewiaeth wedi dysgu erioed fod yna fywyd wedi marwolaeth, mae manylion hyn yn aneglur ac yn destun dadlau maith.

Pan ysgrifennwyd yr Iddewig cynnar, roedd llawer o Iddewon yn credu y byddai pawb, wedi iddyn nhw farw, yn disgyn i le tywyll o’r enw . Wrth i Iddewon ddod i gysylltiad â dylanwadau eraill, datblygodd dysgeidiaethau pellach, gan gynnwys dysgeidiaethau ar a . Wedyn daeth Sheol yn fan , neu aros, cyn i’r unigolyn gael ei anfon ymlaen naill ai i Gan Eden neu i gael ei ddifa’n llwyr.

Tuag adeg y a’r rabïaid cynnar cafodd dysgeidiaethau am fywyd wedi marwolaeth eu datblygu ymhellach. Dysgodd y rabïaid cynnar y byddai’r rhai oedd yn byw yn ôl yr yn cael eu gwobrwyo mewn byd i ddod, sef Olam Ha-Ba mewn .

Roedd dysgeidiaethau diweddarach am fywyd wedi marwolaeth yn cynnwys y syniad y deuai dydd barn wedi dyfodiad y . Ar y pwynt hwn roedd rhai’n dysgu y câi’r enaid a’r corff eu haduno, a elwid weithiau’n y corff, tra bod eraill yn credu mai’r enaid fyddai’n dragwyddol, cred a elwid yn . Wedyn byddent yn cael cosb neu wobr am y ffordd yr oeddent wedi byw, ond doedd dim dysgeidiaeth glir am union natur Nefoedd nac Uffern.

Mae Iddewiaeth yn dysgu mai’r hyn sy’n bwysig yw sut y mae rhywun yn byw ei fywyd ac y dylid gadael yr hyn sy’n digwydd wedi marwolaeth i Dduw. Dylid gwneud troeon da er eu mwyn eu hunain. Yn y dywedir:

Na fyddwch fel gweision sy’n gwasanaethu eu meistr er mwyn derbyn gwobr.
Moeseg y Tadau 1:3

More guides on this topic