Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolIddewon a'r grêd mewn bywyd wedi marwolaeth

Mae bywyd ar ôl marwolaeth yn gysyniad sylfaenol i'r rhan fwyaf o grefyddau. Mae safbwyntiau Iddewig am farwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth yn cynnwys y gred mewn Nefoedd ac Uffern. Fel arfer ceir cysylltiad agos iawn rhwng defodau angladdol Iddewig a'u credoau am fywyd ar ôl marwolaeth.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Pam mae Iddewon yn credu mewn bywyd wedi marwolaeth?

Mae llawer o Iddewon yn credu mewn bywyd wedi marwolaeth oherwydd:

  • Yn y traddodiad Iddewig clasurol ceir dysgeidiaethau am fywyd wedi marwolaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y syniad fod gan fodau dynol enaid a fydd ryw ddydd yn dychwelyd at Dduw.
  • Mae dysgeidiaethau eraill yn awgrymu y bydd barnu yn y dyfodol pan gaiff rhai eu gwobrwyo ac eraill eu cosbi.
  • Mae’r yn cynnwys cofnodion o ddadleuon a dyfarniadau sy’n cynnwys cwestiynau bywyd wedi marwolaeth.
  • Amlinellodd yr athronydd Iddewig 13 Egwyddor Ffydd i Iddewon. Mae’r 13eg egwyddor yn sôn am adfywiad y meirw... pan fodlona’r Creawdwr.

Question

Eglurwch beth yw ystyr ‘bywyd tragwyddol’.

Question

Disgrifiwch y dysgeidiaethau Iddewig ar y bywyd tragwyddol.

More guides on this topic