Y bydTarddiad y bydysawd

Mae gan Iddewiaeth gredoau am greu'r bydysawd, awdurdod, stiwardiaeth, cyfrifoldeb amgylcheddol, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae Tu B’shevat yn ddiwrnod ymwybyddiaeth ecolegol Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Tarddiad y bydysawd

Creu

Yn ôl cred yr Iddewon, creodd Duw y bydysawd. Gwelir y storïau am y modd y gwnaeth hyn yn nechrau llyfr , sef y llyfr cyntaf yn y .

  • Yn y dechreuad - dechreuodd Duw greu.
  • Y diwrnod cyntaf - crëwyd goleuni.
  • Yr ail ddiwrnod - crëwyd yr awyr.
  • Y trydydd diwrnod - crëwyd tir sych, moroedd, planhigion a choed.
  • Y pedwerydd diwrnod - crëwyd yr Haul, y Lleuad a’r sêr.
  • Y pumed diwrnod - crëwyd creaduriaid sy’n byw yn y môr a chreaduriaid sy’n hedfan.
  • Y chweched diwrnod - crëwyd anifeiliaid sy’n byw ar y tir ac yn olaf, fodau dynol, a wnaed ar ddelw Duw.
  • Erbyn y seithfed diwrnod, roedd Duw wedi gorffen ei waith creu a gorffwysodd, gan wneud y seithfed dydd yn ddiwrnod sanctaidd arbennig, sef y .
A visual representation of the days of Creation, from Genesis 1.

Mae’r stori’n mynd ymlaen wedyn i roi mwy o fanylion am gread bodau dynol, a gyflwynir ar ffurf dau unigolyn, Adda ac Efa.

Cafodd Adda ei wneud ‘o lwch y tir’ ac anadlodd Duw einioes i mewn iddo. Cafodd Efa ei chreu o un o asennau Adda i roi cwmni iddo. Roeddent yn byw mewn lle arbennig o’r enw Gardd Eden. Cafodd y ddau y dasg a’r cyfrifoldeb o ofalu am y lle roedd Duw wedi’i greu iddynt.

Question

Eglurwch y credoau Iddewig ynglŷn â chreu’r bydysawd.