Y bydAwdurdod a stiwardiaeth

Mae gan Iddewiaeth gredoau am greu'r bydysawd, awdurdod, stiwardiaeth, cyfrifoldeb amgylcheddol, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae Tu B’shevat yn ddiwrnod ymwybyddiaeth ecolegol Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Awdurdod a stiwardiaeth

Stiwardiaeth

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhaid i fodau dynol gymryd cyfrifoldeb amgylcheddol dros y byd a roddodd Duw iddynt. Y term am y syniad hwn o ofalu am y byd a phopeth ynddo am genedlaethau i ddod ar ein hôl yw stiwardiaeth. Mae Iddewon yn dilyn y , sy’n rhoi llawer o orchmynion ynglŷn â gofalu am y byd, er enghraifft:

  • peidio byth â dinistrio pethau ar y Ddaear sy’n ddefnyddiol
  • rhoi seibiant i’r tir o dyfu cnydau bob 50 mlynedd

Awdurdod

Mae Iddewon yn credu hefyd fod ganddynt awdurdod dros y byd. Dyma’r syniad fod Duw wedi rhoi rheolaeth i fodau dynol dros natur. Gellir gweld y ddysgeidiaeth am awdurdod yn Genesis 1 yn y Torah lle dywedir:

Llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n symud ar y ddaear
Genesis 1:28

Tikkun olam

Dysgeidiaeth yw’r term Iddewig tikkun olam i atgyweirio’r byd. Ei bwrpas yw ysbrydoli’r gymuned Iddewig i ofalu am y byd mewn unrhyw fodd y gallant. Gallent wneud hyn drwy sicrhau nad ydym yn disbyddu adnoddau naturiol drwy fyw’n . Gallai hyn gynnwys:

  • ailgylchu
  • codi sbwriel
  • dewis cerdded yn lle gyrru lle bo’n bosibl
  • diffodd goleuadau pan nad oes neb yn yr ystafell

Bal tashchit

Mae Tikkun olam hefyd yn gysylltiedig â’r term Iddewig bal tashchit, sy’n golygu ‘peidiwch â dinistrio’. Mae’r ddysgeidiaeth hon i’w chael yn y Torah.

Pan fydd tref dan warchae gennyt… paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyell
Deuteronomium 20:19

Gemilut hasadim

Yn ogystal â gofalu am y byd a’i adnoddau naturiol mae pwyslais yn Iddewiaeth ar ofalu am ein gilydd. Enw’r gorchymyn hwn yw gemilut hasadim, sy’n cyfeirio at weithredoedd o garedigrwydd cariadus, nid dim ond tuag at yr amgylchedd ond tuag at ein gilydd. Dyma ffyrdd o gyflawni hyn:

  • bod yn garedig wrth eraill
  • helpu eraill sydd mewn angen
  • bod yn haelfrydig
  • bod yn hael

Cyfeirir at hyn yn aml fel bod yn ddinesydd byd-eang.

Honi a’r Goeden Garob

Yn stori Honi a’r Goeden Garob, mae dyn o’r enw Honi yn gweld dyn arall yn plannu coeden garob. Mae’n gofyn pa mor hir y mae’n meddwl y cymer i’r goeden ddwyn ffrwyth, ac mae’r dyn yn ateb y gwnaiff gymryd rhyw 70 mlynedd. Wedyn mae Honi’n gofyn a ydyw’n meddwl y bydd yn fyw i fwyta’r ffrwythau o’r goeden. Mae’r dyn yn ateb, efallai na fydd ef yn fyw mewn 70 mlynedd, ond mae yntau wedi bwyta ffrwythau a blannwyd gan ei dad a’i daid. Trwy blannu coed nawr bydd ei blant a’i wyrion yntau’n gallu bwyta’r ffrwythau o’r goeden.

Tu B'Shevat

Tu B'Shevat yw’r flwyddyn newydd Iddewig i goed. Mae’n un o’r pedair blwyddyn newydd Iddewig, sydd hefyd yn cael ei galw’n Rosh Hashanah. Ar Tu B'Shevat, bydd Iddewon yn aml yn bwyta ffrwythau cysylltiedig â’r Wlad Sanctaidd, yn enwedig y rhai sy’n cael eu henwi yn y Torah. Bydd rhai Iddewon yn plannu coed ar y diwrnod hwn, neu’n casglu arian tuag at blannu coed yn Israel.

Question

Disgrifiwch y credoau Iddewig am stiwardiaeth.