Y bydIddewiaeth a damcaniaeth esblygiad

Mae gan Iddewiaeth gredoau am greu'r bydysawd, awdurdod, stiwardiaeth, cyfrifoldeb amgylcheddol, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae Tu B’shevat yn ddiwrnod ymwybyddiaeth ecolegol Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Iddewiaeth a damcaniaeth esblygiad

I lawer o Iddewon mae stori’r yn y yn ddatganiad pwysig o’r gred mai yr un Duw a greodd bob peth. Byddai llawer yn dadlau y gallai un ‘dydd’ yn y stori gyfeirio at unrhyw gyfnod o amser. Felly gallai saith diwrnod stori’r creu gyfeirio at saith cyfnod maith.

Mae’r drefn y crëwyd pethau byw ynddi yn ôl y Torah yn debyg i’r drefn y mae gwyddonwyr yn derbyn y crëwyd bywyd ynddi (planhigion, creaduriaid y môr, creaduriaid hedegog, anifeiliaid y tir ac yn olaf fodau dynol).

Mae’r cwestiynau a ofynnir gan wyddoniaeth a gan Iddewiaeth am darddiad y bydysawd yn wahanol. Mae gwyddoniaeth yn ymboeni mwy am sut y digwyddodd y broses. Mae Iddewiaeth yn ymboeni ynghylch pam y dewisodd Duw greu’r Ddaear ac am egluro bodolaeth a phwrpas bodau dynol.

Felly, i lawer o Iddewon, mae modd cysoni a chread.

Pam mae modd eu cysoni?

  • Nid yw stori’r creu yn Genesis yn ceisio cynnig ateb gwyddonol i gwestiynau am darddiad y bydysawd.
  • Mae’n ymboeni mwy am egluro’n glir fod Duw mewn rheolaeth lwyr dros y bydysawd a bod y bydysawd yn bodoli am fod Duw eisiau iddo fodoli.
  • Mae yn dadlau bod Duw wedi creu’r bydysawd a’r Ddaear i bwrpas.
  • Mae yn dadlau bod popeth wedi’i gynllunio gan Dduw, a bod pob un newid sy’n digwydd yn waith uniongyrchol Duw yn y cread.

Mae rhai , yn enwedig Iddewon , yn anghytuno â hyn. Iddyn nhw, does dim modd cysoni egwyddor esblygiad ag Iddewiaeth am ei bod yn ôl pob golwg yn gwrthddweud dysgeidiaeth y Torah.