A oes modd cysoni damcaniaeth y Glec Fawr ag Iddewiaeth?
Mae Iddew UniongredIddew sy'n byw yn unol â'r Torah a chyfraith rabinaidd (halakhah) ac sydd ddim ond yn derbyn newidiadau sy'n dderbyniol yn ôl y Torah. yn credu gan fod y Torah yn rhodd gan Dduw, fod yn rhaid bod popeth ynddo yn llythrennol wir. Felly mae rhai Iddewon Uniongred yn credu bod y byd wedi ei greu mewn saith diwrnod. Gan eu bod yn credu bod Duw yn hollalluog, maen nhw'n credu byddai Duw wedi gallu creu'r bydysawd, bron ar unwaith, heb wrth-ddweud y dystiolaeth am ddamcaniaeth y Glec Fawr.
Mae Iddewon Uniongred eraill yn disgrifio cyfeiriadau at ddyddiau'r creu fel alegori, neu maen nhw'n ystyried bod cyfnod o amser yn gallu cyfeirio at gyfnod sy'n para miliynau o flynyddoedd.
Er efallai nad yw’r rhan fwyaf o Iddew DiwygiedigIddew sydd wedi addasu ei gyfreithiau a'i arferion wrth i fywyd modern newid. nag Iddew RhyddfrydolIddew sy'n fodlon addasu cyfraith grefyddol ar gyfer bywyd modern. yn credu bod stori’r creu yn llythrennol wir ym mhob manylyn, mae llawer yn cydnabod bod Duw wrth y llyw ar ddechreuad y bydysawd ac mai Duw wnaeth oruchwylio’r broses.
Maen nhw’n credu y gallan nhw ddysgu gwersi o’r stori hefyd am bwysigrwydd dynol ryw a’r cyfrifoldeb sydd gan ddynol ryw dros weddill y creu. Maen nhw’n deall hefyd fod stori Genesis yn hyrwyddo’r gred fod y byd yn werthfawr ac, os yw’n bodoli yn y modd y bwriadodd Duw, ei fod yn dda.
Mae llawer o Iddewon yn cydnabod bod dealltwriaeth wyddonol yn tyfu wrth i fodau dynol ddarganfod mwy am y bydysawd. Maen nhw’n derbyn damcaniaeth y Glec Fawr a dydyn nhw ddim yn meddwl bod hyn yn effeithio ar eu cred yn Nuw fel Creawdwr pob peth.