Defodau angladd
Mae cysylltiad agos fel arfer rhwng y ffyrdd y bydd pobl grefyddol yn delio â marwolaeth a’r defodau angladdol maen nhw’n eu cyflawni ar y naill law, a’u credoau am fywyd wedi marwolaeth ar y llall.
Mae defodau angladdol yn bwysig iawn oherwydd:
- maen nhw’n dangos parch i’r meirw ac, mewn rhai crefyddau, yn cynnwys amryw o seremonïau sy’n angenrheidiol yng nghred y bobl i sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i beth bynnag fydd eu bywyd nesaf
- maen nhw’n rhoi amser i berthnasau a ffrindiau’r ymadawedig alaru a dangos eu galar yn ffurfiol, a hynny yn nhyb rhai pobl yn eu helpu i ddod dros eu colled
Wrth farw, bydd Iddewon yn ceisio dweud y ShemaGweddi sy'n datgan ffydd Iddewig ac sy'n cael ei hadrodd gan lawer o Iddewon ddwywaith y dydd. Mae'r Shema yn datgan mai dim ond un Duw sydd. Mae geiriau'r Shema yn cael eu gosod o fewn ces y mezuzah a'r tefillin. (gweddi) i ddangos eu cred mewn un Duw:
Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
Pan fydd rhywun yn marw bydd Iddewon yn dweud Kaddish. Gelwir Kaddish yn aml yn weddi angladdol ond gweddi’n moli Duw ydyw hi mewn gwirionedd.
Cyn gynted ag y bydd rhywun yn marw, gwneir paratoadau ar gyfer claddu. Mae’n rhaid iddo ddigwydd cyn gynted ag sy’n bosibl.
- Caiff y corff ei olchi a’i wisgo mewn tachrichim, amdo gwyn syml. Caiff dynion eu lapio yn eu tallith (siôl weddi) hefyd. Caiff y taseli eu torri oddi ar dallith y dyn i ddangos ei fod bellach yn rhydd oddi wrth y deddfau crefyddol.
- Rhoddir y corff mewn arch bren blaen a selio’r arch. O amser y farwolaeth tan y claddu, nid yw’r corff byth yn cael ei adael ar ei ben ei hun.
- Cyn y claddu bydd y galarwyr yn gwneud rhwyg yn eu dillad – keriah yw hyn; mae’n arwydd o’u galar.