Arolwg iard chwarae - Ymchwilio i fioamrywiaeth

Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.

Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel rhifydd bioamrywiaeth (biodiversity counter) i gofnodi nifer y rhywogaethau o anifeiliaid a nifer y rhywogaethau o blanhigion a welwyd ar iard chwarae’r ysgol. Bydd y disgyblion yn ateb y cwestiwn:

Sawl rhywogaeth wahanol o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennym yn yr iard chwarae?

Gwylio’r fideo

(Fideo cyfrwng Saesneg)

Sut mae cwblhau’r gweithgaredd

Lawrlwythwch yr adnoddau. document

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, taflen waith i ddisgyblion, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Lawrlwythwch yr adnoddau

Rhaglennwch y micro:bit. External Link

Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i gael cyfarwyddiadau codio neu i lawrlwytho'r cod.

Rhaglennwch y micro:bit

Dadansoddi data eich dosbarth. External Link

Cyfle i drafod darganfyddiadau, gwneud cysylltiadau ac ystyried gweithrediadau sy’n ymwneud â data.

Dadansoddi data eich dosbarth

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae

  • I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, byddwch chi angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon a’r daflen waith i ddisgyblion.
  • Ymchwiliad gwyddonol yw’r gweithgaredd hwn yn bennaf. Mae’n gysylltiedig ag adnabod a dosbarthu planhigion ac anifeiliaid. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio allweddi adnabod yn ogystal â meddwl am brofion teg, cofnodi a dadansoddi eu data.
  • Mae’n gyfle da i ddefnyddio a datblygu sgiliau mathemategol gan gynnwys trin data (tablau data, siartiau bar, graffiau llinell) a dadansoddi ystadegol syml (cyfrifo cyfartaleddau).
  • Mae hefyd yn enghraifft dda o waith maes daearyddol, i alluogi disgyblion i ateb cwestiynau daearyddol am yr ardal leol.
  • Bydd y weithgaredd hon yn annog eich dosbarth i gymryd sylw o fyd natur yn eu cynefin. Gallai hyn fod o fudd i’w lles a’u hannog i ofalu am fyd natur a’n planed.

Pynciau sy’n cael sylw

  • Cyfrifiadureg/TGCh: Newidynnau; Mewnbynnau ac allbynnau; Defnyddio synhwyrydd; Digwyddiadau.
  • Gwyddoniaeth: Adnabod a dosbarthu planhigion ac anifeiliaid, nodweddion organebau; Amgylcheddau sy’n newid a’r effaith ar bethau byw.
  • Daearyddiaeth/Dyniaethau: Gwaith maes/arolwg o ardal leol/iard chwarae.
  • Mathemateg a Rhifedd: Trin data - cofnodi data arolwg gan ddefnyddio tabl; Cyfartaleddau.
  • Dylunio a Thechnoleg: Dylunio a chreu cynnyrch gan ddefnyddio TGCh.

Awgrymiadau o amcanion dysgu

  • Cyflwyniad a chynllunio: Disgrifio sut mae pethau byw yn cael eu dosbarthu’n grwpiau eang yn ôl nodweddion cyffredin y gellir eu gweld, gan gynnwys micro-organebau, planhigion ac anifeiliaid (Gwyddoniaeth).
  • Codio dewisol: Creu algorithm i ddatrys problem; Deall newidynnau syml (Cyfrifiadureg/TGCh).
  • Gwaith maes: Adnabod a dosbarthu enghreifftiau o bethau byw, er mwyn helpu i werthfawrogi eu hamrywiaeth (Gwyddoniaeth); Rhoi rhesymau dros ddosbarthu planhigion ac anifeiliaid ar sail nodweddion penodol (Gwyddoniaeth).
  • Dadansoddi a chofnodi data: Dehongli gwybodaeth yng nghyd-destun cwestiwn ymholiad; Adnabod patrymau o arsylwadau ac ymchwiliadau, a chyfleu canfyddiadau (Gwyddoniaeth/Mathemateg a Rhifedd/Daearyddiaeth/Dyniaethau), Cyfrifo a dehongli’r cymedr fel cyfartaledd (Mathemateg a Rhifedd).

Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol

  • Gwyddoniaeth: Tynnu lluniau o blanhigion/anifeiliaid anhysbys i'w hadnabod yn ôl yn y dosbarth gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd; Cysylltu data'r arolwg â gwaith blaenorol ar dymheredd iardiau chwarae a gweld a oes patrymau.
  • Mathemateg a Rhifedd: Cyflwyno’r data mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol (gan gynnwys gwahanol fathau o graffiau).
  • Daearyddiaeth/Dyniaethau: Creu mapiau o’r iard chwarae sy’n dangos lleoliad gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, neu ardaloedd o fioamrywiaeth uchel ac isel; Cynnal rhagor o waith maes/arolygon i ateb cwestiynau daearyddol tebyg.
  • Dylunio a Thechnoleg: Dylunio cês neu flwch i ddiogelu’r micro:bit ac i helpu’r defnyddiwr i’w weithredu’n gywir fel rhifydd bioamrywiaeth; Dylunio iard chwarae newydd a fydd yn cynyddu bioamrywiaeth.
  • Cyfrifiadureg/TGCh: Defnyddio TGCh i greu cronfa ddata cangen o rywogaethau a geir yn yr arolwg.
  • Celf: Archwilio gwaith haniaethol a dylunio eiconau sgrin LED newydd ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion, gan ddefnyddio taflen gynllunio LED.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Mesur arwynebedd. video

Mesurwch bellteroedd i gyfrifo arwynebedd iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Distance calculator' yn y micro:bit.

Mesur arwynebedd

Cofnodi ein gweithgaredd corfforol. video

Gofynnwch i’r disgyblion ddefnyddio rhaglen arbennig 'Activity tracker' yn y micro:bit i gadw golwg ar eu symudiadau corfforol ar iard chwarae eu hysgol.

Cofnodi ein gweithgaredd corfforol

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae

Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae