Arolwg iard chwarae - Canllaw i athrawon

Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.

Mae arolwg iard chwarae BBC micro:bit yn rhan o ymgyrch BBC micro:bit – cewri codio ac mae’n gyfle cyffrous i blant 7-11 oed ymchwilio ac i fynd i’r afael â gwyddor data a sgiliau digidol mewn ffordd hwyliog ac ymarferol sy’n berthnasol i’w bywydau bob dydd.

Mae'r canllaw hwn i athrawon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau arni, gan gynnwys manylion am y manteision o gymryd rhan, sut mae'r arolwg yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, cymorth sydd ar gael i chi, a llawer mwy.

Ewch i waelod y dudalen i lawrlwytho'r adnoddau athrawon ar gyfer pob gweithgaredd

Beth yw BBC micro:bit - arolwg iard chwarae?

Mae’r arolwg yn gyfres o saith gweithgaredd trawsgwricwlaidd cyffrous ar gyfer ysgolion cynradd ledled y DU. Mae pum gweithgaredd yn golygu casglu data ac mae pob un o’r rhain yn cynnwys tair neu bedair rhan (sesiwn) syml gan gynnwys cynllunio yn yr ystafell ddosbarth, codio dewisol, gwaith maes ar yr iard chwarae a dadansoddi data i’r dosbarth cyfan.

Dyma’r gweithgareddau: Dechrau arni (Cyflwyniad), Cymharu tymereddau arwynebau, Ymchwilio i fioamrywiaeth, Mesur arwynebedd, Cofnodi ein gweithgaredd corfforol, Archwilio dysgu peirianyddol a Beth nesaf? (Ymestynnol).

Bydd canllaw gan BBC Teach sy’n cynnwys fideo ar gyfer pob un o'r gweithgareddau a chanllaw micro:bit gan Sefydliad Addysgol Micro:bit ar gyfer codio a dysgu peirianyddol.

Sut gall cymryd rhan fod o fudd i athrawon a disgyblion?

Drwy gymryd rhan, mae'r plant yn cael cyfle unigryw i fod yn rhan o brosiect ar raddfa fawr gan ddefnyddio eu dyfeisiau micro:bit y BBC rhad ac am ddim ochr yn ochr ag ysgolion eraill ar draws gwledydd Prydain. Byddant yn dysgu am bynciau mawr fel pwysigrwydd data a dysgu peirianyddol mewn ffordd ddiddorol, weithredol a hygyrch.

Mae canllawiau’r arolwg a’r adnoddau dysgu wedi cael eu llunio’n ofalus gan arbenigwyr pwnc a gallwch eu defnyddio i addysgu disgyblion ysgol gynradd rhwng 7 ac 11 oed ac i gefnogi gofynion Ofsted, Estyn, Training Inspectorate NI ac Education Scotland.

Sut mae’r arolwg iard chwarae yn cysylltu â’r cwricwlwm?

Mae pob gweithgaredd casglu data wedi cael ei fapio i’r cwricwlwm yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Rydym wedi nodi cysylltiadau a chyfleoedd trawsgwricwlaidd ar draws nifer o bynciau, ar gyfer pob gwlad. Drwy gwblhau'r sesiynau arolwg iard chwarae, bydd y plant yn archwilio Daearyddiaeth, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cyfrifiadureg/TGCh, Addysg Gorfforol, ABGI, Dinasyddiaeth a mwy!

Gallwch lawrlwytho mapiau cwricwlwm yr arolwg iard chwarae fel rhan o'r adnoddau sydd ar gael ac rydym hefyd wedi nodi pynciau a drafodwyd ac wedi awgrymu amcanion dysgu a syniadau ar gyfer gweithgareddau ymestynnol i'ch helpu wrth gynllunio.

Sut galla i gynnwys yr arolwg yn amserlen yr ysgol?

Mae sesiynau’r arolwg iard chwarae wedi’u cynllunio i weithio’n hyblyg i helpu athrawon i gynnwys y dysgu hwn mewn amserlen brysur. Gallai athrawon ddewis gwneud un gweithgaredd yn unig neu ddewis y rheini sy’n cyd-fynd â’r hyn maen nhw eisiau ei ddysgu.

Gallwch rhannu'r sesiynau ar draws diwrnodau, wythnosau neu fisoedd hyd yn oed! Rydym yn awgrymu bod yr arolwg llawn yn cael ei gwblhau dros gyfnod o bythefnos i chwe wythnos.

Sut galla i deilwra gweithgareddau’r arolwg i anghenion fy nosbarth?

Er mwyn helpu pob athro i deimlo’n hyderus wrth gymryd rhan, mae adnoddau’r arolwg iard chwarae yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl cam wrth gam i athrawon ar gyfer pob gweithgaredd. Gallwch addasu’r rhain i ddiwallu anghenion ac amcanion dysgu penodol eich disgyblion.

Rydym wedi nodi meysydd ar gyfer gwahaniaethu yn y cyfarwyddiadau i athrawon ac mae’r codio ar gyfer pob gweithgaredd yn ddewisol. Rydym hefyd wedi nodi cyfleoedd i wneud y cod yn god penodol i chi ym mhob un o'r canllawiau micro:bit.

Pa gefnogaeth addysgu sydd ar gael?

Gall athrawon gael gafael ar gyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb ac ar-lein am ddim gan Sefydliad Addysgol Micro:bit a phartneriaid ar draws y gwledydd i feithrin eu hyder wrth addysgu gan ddefnyddio’r micro:bit.

Mae cyfle hefyd i Lysgennad STEM ymweld â'ch ysgol i'ch helpu i gynnal eich arolwg iard chwarae (gweler isod).

Ni ofynnir i blant gasglu data personol ar unrhyw adeg yn ystod y sesiynau casglu data, dadansoddi data nac uwchlwytho data. Fodd bynnag, efallai y bydd o fudd egluro hyn i rai disgyblion a rhieni ymlaen llaw. Gall disgyblion ddysgu am breifatrwydd data a diogelwch data fel rhan o’n gweithgareddau Dechrau arni ac Archwilio dysgu peirianyddol ac mae llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr ar ddiwedd y dudalen hon.

Gwneud cais am Lysgennad STEM i helpu eich ysgol

Mae Llysgenhadon STEM gwirfoddol sydd wedi'u hyfforddi ar gael i gefnogi eich gweithgareddau micro:bit yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae cofrestru fel Addysgwr a gofyn am Lysgennad STEM drwy'r wefan yn broses gyflym a hawdd.

Ewch i rwydwaith llysgenhadon STEM i bostio cais am weithgaredd neu chwilio am gynnig gan Lysgennad STEM sydd wedi cwblhau hyfforddiant micro:bit. Mae pob un o’r 28,000 o Lysgenhadon STEM wedi cael archwiliad cefndir llawn, wedi cael hyfforddiant diogelu ac wedi’u hyswirio.

Ymunwch â sesiwn wybodaeth i ddysgu sut gall Addysgwyr ddefnyddio Llysgenhadon STEM neu dewch o hyd i gymorth yn eu canllawiau ar gyfer ysgolion.

Cofiwch y bydd rhai o’r dolenni yn yr erthygl hon yn mynd â chi o wefan y BBC.

Lawrlwytho’r adnoddau

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Dechrau arni. video

Cyflwynwch yr arolwg iard chwarae a’r gweithgareddau hwyliog y gall eich ysgol gynradd gymryd rhan ynddynt. Gwnewch fap o’ch iard chwarae, a thrafod diogelwch data.

Dechrau arni

Cymharu tymereddau arwynebau. video

Cymharwch dymereddau arwynebau mewn pedair rhan o iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Thermometer' yn y micro:bit.

Cymharu tymereddau arwynebau

Ymchwilio i fioamrywiaeth. video

Defnyddiwch y rhaglen 'Biodiversity counter' yn y micro:bit i ymchwilio i nifer y gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn eich iard chwarae.

Ymchwilio i fioamrywiaeth