Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Gweithgaredd dosbarth cyfan diddorol sy’n cyflwyno arolwg iard chwarae BBC micro:bit, a sut mae dechrau arni. Bydd y disgyblion yn trafod preifatrwydd a diogelwch data, ac yn creu map o’u hiard chwarae i ddiffinio ffiniau’r iard.
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Shereen: Helo. Shwmae? Fy enw i yw Shereen.
Big Manny: A fi yw Big Manny.
Tilly: Tilly ydw i a dyma…
Yussef: Yussef.
Big Manny: Chi yw'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data gwych.
Shereen: Mae arnom angen eich help chi!
Big Manny: Mae'r micro:bit yn ddarn gwych o dechnoleg. Gallwch ei raglennu i wneud bron unrhyw beth.
Tilly: Mae angen i chi ddefnyddio cod i droi y micro:bit yn bedwar offeryn gwahanol i chi gasglu data pwysig am amgylchedd iard chwarae eich ysgol.
Shereen: Bydd angen i chi fod yn greadigol, yn chwilfrydig, a chael hwyl.
Big Manny: Byddwch yn mesur tymheredd arwynebau deunyddiau.
Yussef: Ac rydym eisiau i chi ddefnyddio eich micro:bit i gynnal arolwg o fioamrywiaeth.
Shereen: Byddwch hefyd yn cyfrifo arwynebedd eich iard chwarae.
Tilly: Ac yn cadw cofnod o'ch gweithgareddau corfforol ar yr iard chwarae.
Yussef: Mae'r micro:bit mor gryf nes ei fod yn gallu hyd yn oed synhwyro a dadansoddi symudiad.
Tilly: Mae'n gwneud hyn trwy'r mesurydd cyflymiad o fewn y micro:bit a'r rhaglen arbennig a gafodd ei chreu gan ddefnyddio dysgu peirianyddol. Byddwch hefyd yn dysgu sut gafodd y rhaglen Activity Tracker ei chreu a chael y cyfle i hyfforddi eich model dysgu peirianyddol eich hunain.
Shereen: Nawr mae hynny yn cŵl iawn.
Yussef: Gallwn herio ein gilydd i ddysgu sgiliau codio newydd wrth i ni raglennu ein micro:bit a gwthio ein gilydd i fod y gwyddonwyr data gorau posib.
Big Manny: Syniad gwych!
Shereen: Amdani!
Big Manny: Gadewch i ni weld pwy all gasglu'r mesuriadau mwyaf cywir.
Tilly: Chi'n gêm?
Yussef: Allwch chi ragfynegi beth fyddwch chi'n ei ddarganfod? Efallai cewch eich synnu gan eich canlyniadau.
Shereen: Felly am beth ydych chi'n aros?
Big Manny: Beth am ddechrau gan fapio eich iard chwarae?
TIlly: Yna byddwch yn gwybod y ffiniau i weithio tu fewn iddynt.
Plant: Rydyn ni'n caru micro:bit!
Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
- I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, byddwch chi angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon a’r daflen waith i ddisgyblion.
- Yn y gweithgaredd hwn, mae disgyblion yn cael eu cyflwyno i arolwg iard chwarae BBC micro:bit ac yn gallu dechrau meddwl am y cwestiynau allweddol sy’n cael eu harchwilio a’r gwahanol feysydd pwnc a fydd yn cael sylw.
- Bydd yn ddefnyddiol iawn i ddisgyblion allu gweld map o iard chwarae eu hysgol i gefnogi gweithgareddau amrywiol yr arolwg – yn enwedig y gweithgaredd Mesur ardal. Gall disgyblion fwynhau sesiwn gwneud mapiau syml gyda’r opsiwn i gynnwys ymarfer gwaith maes hwyliog, cyn mynd i’r afael â’r gweithgareddau casglu data.
Pynciau sy’n cael sylw
- Cyfrifiadureg/TGCh/ABGI/Iechyd a Lles: Diogelwch ar-lein – gwybodaeth bersonol a diogelwch; Defnydd priodol o wybodaeth bersonol.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Deall cynlluniau/golygfeydd trem aderyn a lluniau o’r awyr; Dehongli a llywio map digidol; Adnabod nodweddion allweddol a lleoliad ar fap; Gwneud gwaith maes a chofnodi gwybodaeth; Creu map syml gyda symbolau ac allwedd.
Awgrymiadau o amcanion dysgu
- Cyflwyniad: Deall beth yw arolwg a sut mae’n ein helpu ni i ateb cwestiynau; Archwilio trosolwg o weithgareddau’r arolwg iard chwarae a chasglu data.
- Trafodaeth ynghylch preifatrwydd a diogelwch data: Atgyfnerthu gwybodaeth bresennol am y materion sy'n ymwneud â chasglu data personol a phreifatrwydd; Dysgu sut mae gwneud data personol yn ddienw yn gallu sicrhau nad oes modd adnabod unigolion; Deall rôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS); Nodi sefyllfaoedd posib lle mae’n ddiogel rhannu data.
- Gwneud map: Creu map/cynllun amlinellol o’r iard chwarae a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr arolwg, gan gynnwys symbolau ac allwedd syml; Defnyddio mapiau/cynlluniau/adnoddau mapio digidol sy’n bodoli eisoes i ddod o hyd i nodweddion a strwythurau; Defnyddio sgiliau gwaith maes i archwilio a chofnodi gwybodaeth am leoliad cyfarwydd.
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
- Cyfrifiadureg/TGCh/ABGI/Iechyd a Lles: Creu fideo byr cymar wrth gymar am breifatrwydd data; Gwneud stribed comig am ddiogelwch data a chadw gwybodaeth bersonol yn breifat; Creu poster/cerdd acrostig/rhestr cyngor campus ar gyfer ffyrdd o gadw data personol yn ddiogel.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Ychwanegu llinellau grid a rhifau at y map o’r iard chwarae a defnyddio cyfeirnodau grid 4/6 ffigur i ddod o hyd i nodweddion allweddol; Defnyddio map ar gyfer gweithgaredd helfa drysor – efallai gyda phlant iau; Defnyddio map i gefnogi gweithgareddau cyfeiriannu gan ddefnyddio cwmpawd; Ychwanegu graddfa at y map ar ôl cyfrifo'r dimensiynau; Creu eu symbolau eu hunain ar gyfer nodweddion cyfarwydd ac ychwanegu eu hallwedd eu hunain; Defnyddio cwmpawd i nodi’r Gogledd ac ychwanegu hyn at y map gyda rhosyn cwmpawd.
- Hanes: Archwilio mapiau hŷn o’r ysgol a’r iard chwarae a chymharu â’r map presennol – gan nodi newidiadau a phethau sydd wedi aros yr un fath, a chreu llinell amser ar gyfer yr iard chwarae.
- Mathemateg: Nodi’r prif siapiau yn amlinell yr iard chwarae a thynnu eu llun ar y map, a mesur yr onglau amrywiol.
- Dylunio a Thechnoleg: Gwneud pos jig-so o luniau o’r awyr o’r iard chwarae.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Cymharu tymereddau arwynebau. videoCymharu tymereddau arwynebau
Cymharwch dymereddau arwynebau mewn pedair rhan o iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Thermometer' yn y micro:bit.

Ymchwilio i fioamrywiaeth. videoYmchwilio i fioamrywiaeth
Defnyddiwch y rhaglen 'Biodiversity counter' yn y micro:bit i ymchwilio i nifer y gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn eich iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
