Bydd yr eirfa hon yn eich helpu i addysgu BBC micro:bit - arolwg iard chwarae yn hyderus. O ddeallusrwydd artiffisial i ecosystemau, mae'r ateb yma i chi!
Rydyn ni wedi casglu’r holl dermau allweddol sy'n benodol i'r arolwg iard chwarae. Mae geirfa Cyfrifiadureg/TGCh ehangach ar gyfer addysgwyr ar gael gan ein partneriaid yn Sefydliad Addysgol Micro:bit yma.
Cofiwch y bydd rhai o’r dolenni yn yr erthygl hon yn mynd â chi o wefan y BBC.

Arwynebedd: faint o le sy’n cael ei ddefnyddio gan siâp dau ddimensiwn.
Bioamrywiaeth: mesur o faint o wahanol rywogaethau sy’n byw mewn ecosystem.
Cod: cyfarwyddiadau wedi’u hysgrifennu mewn ffordd y gall cyfrifiadur ei deall.
Cynefin: y mannau lle mae planhigion, anifeiliaid a phethau byw eraill yn bodoli.
Data: gwybodaeth sy’n cael ei chasglu i’w defnyddio mewn mannau eraill.
Deallusrwydd artiffisial: gallu meddalwedd cyfrifiadurol sydd wedi'i ddylunio gan bobl i gyflawni tasgau sydd fel arfer angen deallusrwydd dynol.
Deunydd naturiol: deunydd a gafwyd o rywbeth byw, e.e. gwlân, pren neu gotwm.
Deunydd synthetig: deunydd wedi'i wneud gan bobl, e.e. plastig, gwydr neu neilon.
Dysgu peirianyddol: cymhwyso technoleg deallusrwydd artiffisial lle mae meddalwedd cyfrifiadurol wedi'i gynllunio i gyflawni tasg yn gyflym ac yn ddibynadwy, ar ôl cael ei hyfforddi gan enghreifftiau o ddata a ddarperir gan fodau dynol. Gellir disgrifio’r broses hyfforddi hon fel ‘dysgu’ a dyma pam rydyn ni’n defnyddio’r term ‘dysgu peirianyddol’.
Ecosystem: cymuned o anifeiliaid, planhigion a micro-organebau a'u cynefin.
Hyfforddi model dysgu peirianyddol: darparu samplau o ddata wedi'u categoreiddio a'u labelu gan bobl i helpu meddalwedd dysgu peirianyddol i adeiladu model.
Meddalwedd: set o raglenni a ddefnyddir i gyflawni tasg, sydd fel arfer yn fwy cymhleth nag un rhaglen.
Mesurydd cyflymiad: synhwyrydd sy'n canfod symudiad.
Model dysgu peirianyddol: set o reolau a ddatblygwyd gan system dysgu peirianyddol i gategoreiddio data.
Newidyn: cynhwysydd ar gyfer storio data y gellir ei gyrchu a'i ddiweddaru tra bo rhaglen yn rhedeg.
Profi model dysgu peirianyddol: gwerthuso model dysgu peirianyddol yn erbyn data hysbys neu wedi'i labelu i weld a yw'n categoreiddio'r data hwnnw sydd wedi'i labelu neu'n hysbys yn gywir. Os nad yw’n gywir, efallai y bydd angen rhagor o ddata hyfforddi.
Rhaglen: set o gyfarwyddiadau wedi’u hysgrifennu mewn cod sy’n cyflawni tasg benodol.
Siâp afreolaidd: siâp nad yw ei ochrau a’i onglau i gyd yr un maint.
Siâp rheolaidd: siâp y mae ei hyd, ei ochrau a’i onglau mewnol yn gyfartal.
Tymheredd: mesur o ba mor boeth yw rhywbeth.
Thermomedr: dyfais sy’n mesur tymheredd.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Arolwg iard chwarae
Adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer gweithgareddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho
Popeth sydd angen ei wybod am yr arolwg iard chwarae, a'r holl adnoddau dysgu sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Dechrau arni. video
Cyflwynwch yr arolwg iard chwarae a’r gweithgareddau hwyliog y gall eich ysgol gynradd gymryd rhan ynddynt. Gwnewch fap o’ch iard chwarae, a thrafod diogelwch data.
