Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel rhifydd bioamrywiaeth (biodiversity counter) i gofnodi nifer y rhywogaethau o anifeiliaid a nifer y rhywogaethau o blanhigion a welwyd ar iard chwarae’r ysgol. Bydd y disgyblion yn ateb y cwestiwn:
Sawl rhywogaeth wahanol o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennym yn yr iard chwarae?
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Tilly: Helo bawb. Wrth gerdd rownd yr iard chwarae hwn, dw i a Yussef wedi darganfod cymaint o wahanol blanhigion ac anifeiliaid. Felly mae o am ddangos i mi sut y gallwn ddefnyddio ein BBC micro:bit i redeg ein harolwg bioamrywiaeth ein hunain.
Yussef: Ydw. Ac mae bioamrywiaeth yn golygu cael lot o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae hynny'n hanfodol i les ein planed. Ein her ni heddiw yw ateb y cwestiwn hwn gan Josh yn Lisburn yng Ngogledd Iwerddon.
Josh: Sawl gwahanol rywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennych chi yn eich iard chwarae?
Yussef: Mae hwnna'n gwestiwn mor dda! A chewch eich synnu pa mor bwysig y gall creaduriaid bach fod. Er enghraifft, yn fy marn i, mae pryfed genwair yn arwyr di-glod. Gan dwnelu trwy'r pridd, maen nhw'n creu sianeli bach fel bod aer a dŵr yn pasio trwodd, sy'n helpu planhigion i dyfu'n well.
Tilly: Waw! Da iawn, pryfed genwair bach!
Yussef: Felly, rydym angen casglu data cywir ar y nifer o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid rydym yn eu darganfod. Ac i wneud hynny, byddwn yn defnyddio ein micro:bit fel rhifydd bioamrywiaeth.
Tilly: Felly dyna sut mae'r micro:bit yn helpu.
Yussef: Dw i eisoes wedi cael tro ar raglennu fy micro:bit ond dw i'n clywed dy fod ti yn dipyn o ffan technoleg, felly dw i am weld os alli di ei wneud o mor gywir â fi o fewn yr un amser, a boed i'r codiwr gorau ennill! Waw! Roedd hwnna'n anhygoel! Cywir a chyflym!
Tilly: Wel, efallai nad ydw i'n gwybod gymaint â ti am anifeiliaid a phlanhigion, ond dw i'n ddewin wrth godio.
Yussef: Iawn. Pob tro byddwn yn pwyso'r botwm, bydd y micro:bit yn cadw'r cyfrif, sef yn logio. Rhaid pwyso botwm A i gyfri'r anifeiliaid a botwm B i gyfri'r planhigion. Ond cyn gwneud hynny, rhaid pwyso'r botwm ailosod ar y cefn.
Tilly: Wedi gwneud!
Yussef: Gwych. Ydyn ni am gyd-weithio ar hyn? Galla'i gyfri'r anifeiliaid ac mi gei di gyfri'r planhigion? Felly mi bwysa'i botwm A ac mi gei di bwyso botwm B.
Tilly: Swnio'n dda. I ffwrdd â ni!
Yussef: Amdani! Ww, edrychwch! Malwoden! Gwych! O, dyma bry hofran bach. Dyna ni. Dyna ddau. Dw i'n gorfod edrych yn ofalus iawn am anifeiliaid yn yr iard chwarae yma. Reit. Gadewch i ni edrych am fwy o anifeiliaid. Mae ychydig o bryfed genwair fan yna. O, edrychwch ar hyn! Mae cwpl o bryfed genwair fan yna a dwy falwoden fan yna. Ond dw i wedi logio'r rhywogaethau yna, felly dydyn ni ddim yn eu cyfrif nhw eto.
Tilly: Iawn, dw i'n credu 'mod i wedi logio'r holl rywogaethau ffeindiais i.
Yussef: Wel, os wyt ti'n siŵr, gad i ni gymharu canlyniadau a gweld jyst pa mor fioamrywiol yw'r iard chwarae yma. Dyma'r darn gorau. Os cawson ni'r codio yn gywir wrth raglennu'r micro:bit, pan gyffyrddwn y logo, mi fydd yn dangos cyfanswm ein cyfrif.
Tilly: Dyma ni. O, waw! Ffeindiais i 37 o wahanol rywogaethau o blanhigion. A ffeindiest di 11 gwahanol fath o anifail.
Yussef: Ychydig mwy na'r disgwyl, ie? Dyw'r iard chwarae ddim fel arfer y llefydd mwyaf bioamrywiol, ond pan fyddi di'n ymchwilio'n ofalus, efallai cei dy synnu beth sydd yno. Er, mae bioamrywiaeth y blaned wedi bod yn lleihau, sy'n gallu bod yn beryglus. Mae bioamrywiaeth dda yn hynod bwysig oherwydd mae'n helpu planhigion ac anifeiliaid i ffynnu yn eu cynefinoedd ac mae gan bob un ei ran i'w chwarae, gan greu'r hyn a alwn yn ecosystem.
Tilly: Felly gall arolygon fel hyn helpu gwyddonwyr i gael syniadau am sut i gynyddu bioamrywiaeth. Yn debyg i'n syniadau ni ar gyfer yr iard chwarae, ond ar raddfa lawer iawn mwy.
Yussef: Rydym wedi darganfod bod gan yr iard chwarae yma lot o wahanol rywogaethau.
Tilly: Ond beth am eich un chi? Felly, dewch! Cymrwch eich micro:bit a cheisio cynnal eich arolwg bioamrywiaeth eich hunain.
Y ddau: Hwyl!
Sut mae cwblhau’r gweithgaredd
Lawrlwythwch yr adnoddau. documentLawrlwythwch yr adnoddau
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, taflen waith i ddisgyblion, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Rhaglennwch y micro:bit. External LinkRhaglennwch y micro:bit
Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i gael cyfarwyddiadau codio neu i lawrlwytho'r cod.

Dadansoddi data eich dosbarth. External LinkDadansoddi data eich dosbarth
Cyfle i drafod darganfyddiadau, gwneud cysylltiadau ac ystyried gweithrediadau sy’n ymwneud â data.

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
- I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, byddwch chi angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon a’r daflen waith i ddisgyblion.
- Ymchwiliad gwyddonol yw’r gweithgaredd hwn yn bennaf. Mae’n gysylltiedig ag adnabod a dosbarthu planhigion ac anifeiliaid. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio allweddi adnabod yn ogystal â meddwl am brofion teg, cofnodi a dadansoddi eu data.
- Mae’n gyfle da i ddefnyddio a datblygu sgiliau mathemategol gan gynnwys trin data (tablau data, siartiau bar, graffiau llinell) a dadansoddi ystadegol syml (cyfrifo cyfartaleddau).
- Mae hefyd yn enghraifft dda o waith maes daearyddol, i alluogi disgyblion i ateb cwestiynau daearyddol am yr ardal leol.
- Bydd y weithgaredd hon yn annog eich dosbarth i gymryd sylw o fyd natur yn eu cynefin. Gallai hyn fod o fudd i’w lles a’u hannog i ofalu am fyd natur a’n planed.
Pynciau sy’n cael sylw
- Cyfrifiadureg/TGCh: Newidynnau; Mewnbynnau ac allbynnau; Defnyddio synhwyrydd; Digwyddiadau.
- Gwyddoniaeth: Adnabod a dosbarthu planhigion ac anifeiliaid, nodweddion organebau; Amgylcheddau sy’n newid a’r effaith ar bethau byw.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Gwaith maes/arolwg o ardal leol/iard chwarae.
- Mathemateg a Rhifedd: Trin data - cofnodi data arolwg gan ddefnyddio tabl; Cyfartaleddau.
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio a chreu cynnyrch gan ddefnyddio TGCh.
Awgrymiadau o amcanion dysgu
- Cyflwyniad a chynllunio: Disgrifio sut mae pethau byw yn cael eu dosbarthu’n grwpiau eang yn ôl nodweddion cyffredin y gellir eu gweld, gan gynnwys micro-organebau, planhigion ac anifeiliaid (Gwyddoniaeth).
- Codio dewisol: Creu algorithm i ddatrys problem; Deall newidynnau syml (Cyfrifiadureg/TGCh).
- Gwaith maes: Adnabod a dosbarthu enghreifftiau o bethau byw, er mwyn helpu i werthfawrogi eu hamrywiaeth (Gwyddoniaeth); Rhoi rhesymau dros ddosbarthu planhigion ac anifeiliaid ar sail nodweddion penodol (Gwyddoniaeth).
- Dadansoddi a chofnodi data: Dehongli gwybodaeth yng nghyd-destun cwestiwn ymholiad; Adnabod patrymau o arsylwadau ac ymchwiliadau, a chyfleu canfyddiadau (Gwyddoniaeth/Mathemateg a Rhifedd/Daearyddiaeth/Dyniaethau), Cyfrifo a dehongli’r cymedr fel cyfartaledd (Mathemateg a Rhifedd).
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
- Gwyddoniaeth: Tynnu lluniau o blanhigion/anifeiliaid anhysbys i'w hadnabod yn ôl yn y dosbarth gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd; Cysylltu data'r arolwg â gwaith blaenorol ar dymheredd iardiau chwarae a gweld a oes patrymau.
- Mathemateg a Rhifedd: Cyflwyno’r data mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol (gan gynnwys gwahanol fathau o graffiau).
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Creu mapiau o’r iard chwarae sy’n dangos lleoliad gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, neu ardaloedd o fioamrywiaeth uchel ac isel; Cynnal rhagor o waith maes/arolygon i ateb cwestiynau daearyddol tebyg.
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio cês neu flwch i ddiogelu’r micro:bit ac i helpu’r defnyddiwr i’w weithredu’n gywir fel rhifydd bioamrywiaeth; Dylunio iard chwarae newydd a fydd yn cynyddu bioamrywiaeth.
- Cyfrifiadureg/TGCh: Defnyddio TGCh i greu cronfa ddata cangen o rywogaethau a geir yn yr arolwg.
- Celf: Archwilio gwaith haniaethol a dylunio eiconau sgrin LED newydd ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion, gan ddefnyddio taflen gynllunio LED.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Mesur arwynebedd. videoMesur arwynebedd
Mesurwch bellteroedd i gyfrifo arwynebedd iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Distance calculator' yn y micro:bit.

Cofnodi ein gweithgaredd corfforol. videoCofnodi ein gweithgaredd corfforol
Gofynnwch i’r disgyblion ddefnyddio rhaglen arbennig 'Activity tracker' yn y micro:bit i gadw golwg ar eu symudiadau corfforol ar iard chwarae eu hysgol.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
