Arolwg iard chwarae - Cofnodi ein gweithgaredd corfforol

Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.

Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel traciwr gweithgaredd corfforol (physical activity tracker) sy'n gallu cael ei wisgo i gofnodi symudiadau corfforol y disgyblion ar iard chwarae’r ysgol. Mae disgyblion yn ateb y cwestiynau:

Pa fath o weithgaredd corfforol ydyn ni’n ei wneud ar iard chwarae’r ysgol? Pa mor gywir yw’r data?

Gwylio’r fideo

(Fideo cyfrwng Saesneg)

Sut mae cwblhau’r gweithgaredd

Lawrlwythwch yr adnoddau. document

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Lawrlwythwch yr adnoddau

Rhowch y cod ar y micro:bit. External Link

Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i lawrlwytho'r cod arbennig.

Rhowch y cod ar y micro:bit

Gweld eich data symudiad. External Link

Gallwch ddehongli graffiau sy’n dangos eich data symudiad, trafod darganfyddiadau a phenderfynu ar gywirdeb y data.

Gweld eich data symudiad

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae

  • I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, bydd angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon arnoch chi.
  • Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i archwilio eu lefelau gweithgaredd corfforol eu hunain, ac mae'n cynnig y cyfle i drafod y syniad bod angen cydbwysedd o wahanol lefelau o weithgaredd arnynt i gadw'n iach.
  • Bydd disgyblion yn defnyddio’r micro:bit fel dyfais ddigidol y gellir ei gwisgo i gofnodi gwybodaeth am eu lefelau gweithgaredd corfforol dros gyfnod o amser. Gelwir y broses hon yn cofnodi data. Byddant yn dysgu bod gan y micro:bit synhwyrydd parod, sef y cyflymydd y gellir ei ddefnyddio i fesur pan fydd y micro:bit yn cael ei symud i gyfeiriadau gwahanol.
  • Bydd disgyblion yn defnyddio rhaglen tracio gweithgaredd arbennig gan ddefnyddio math penodol o ddeallusrwydd artiffisial o’r enw dysgu peirianyddol. Dysgu peirianyddol yw lle mae meddalwedd cyfrifiadurol yn cael ei ddylunio i gyflawni tasg yn gyflym ac yn ddibynadwy ar ôl cael ei hyfforddi gan ddata a ddarperir gan bobl. Gellir disgrifio’r broses hyfforddi hon fel ‘dysgu’ a dyma pam rydyn ni’n defnyddio’r term ‘dysgu peirianyddol’. Mae’r system gyfrifiadurol yn cael samplau o ddata sy’n cael eu categoreiddio a’u labelu gan bobl i helpu meddalwedd dysgu peirianyddol i adeiladu model. Gall y model wedyn ddefnyddio’r set o reolau a ddatblygwyd gan system dysgu peirianyddol i gategoreiddio data newydd.

Pynciau sy’n cael sylw

  • Gwyddoniaeth: Corff dynol - sgerbydau a chyhyrau; Cynnal ymchwiliad i ateb cwestiwn gwyddonol; Defnyddio offer i gynnal ymchwiliad.
  • ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Gwybod bod angen cydbwysedd o fathau a lefelau o weithgaredd corfforol arnom i gadw’n iach.
  • Mathemateg: Darllen a dehongli data ar ffurf tabl, siartiau a graffiau.
  • Cyfrifiadureg/TGCh: Mewnbynnau ac allbynnau; Cofnodi a storio data; Defnyddio synhwyrydd e.e. cyflymydd.

Awgrymiadau o amcanion dysgu

  • Cyflwyniad a chynllunio: Ymchwilio i’r gwahanol fathau o weithgaredd corfforol disgyblion sy’n digwydd ar iard chwarae’r ysgol yn ystod amser egwyl ac amser cinio.
  • Cyfrifiadureg: Deall bod modd defnyddio math o raglennu cyfrifiadurol o’r enw dysgu peirianyddol i hyfforddi rhaglen gyfrifiadurol i adnabod amrywiaeth o weithgareddau corfforol.
  • Gwaith maes: Defnyddio BBC micro:bit i gofnodi data dros gyfnod o amser.
  • Dadansoddi a chofnodi data: Bod yn hyderus wrth ddarllen a dehongli eu data gweithgaredd ar ffurf graffiau a thablau; Deall cyfyngiadau technoleg.

Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol

  • Gwyddoniaeth: Cysylltu traciwr gweithgareddau micro:bit ag ymchwiliad i newidiadau mewn curiad calon/pwls cyn, yn ystod ac ar ôl gwahanol fathau o ymarfer corff.
  • ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Creu cyflwyniad grŵp sy’n egluro pwysigrwydd gwahanol fathau o weithgaredd corfforol i iechyd a lles - ceisiwch ei anelu at wahanol gynulleidfaoedd – e.e. rhieni, plant iau ac ati.
  • Mathemateg: Cyflwyno rhywfaint o’r data crai mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd (gan gynnwys gwahanol fathau o graffiau sy’n defnyddio TGCh); Defnyddio’r data i archwilio cysyniadau fel cyfartaleddau neu ganrannau.
  • Daearyddiaeth: Cysylltu data o’r traciwr gweithgareddau â lleoliad yn yr iard chwarae ac ateb cwestiynau sy’n ymwneud ag ymholiadau daearyddol am yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’r iard chwarae; Creu map o’r iard chwarae ac ychwanegu symbolau map ac allwedd i ddangos tiroedd a nodweddion/adnoddau’r iardiau chwarae, a lleoli lle mae gwahanol fathau o weithgareddau’n digwydd.
  • Celf a dylunio: Defnyddio atebion yr ymholiad Daearyddol i ddylunio cynllun/nodweddion/adnoddau’r iard chwarae ‘ddelfrydol’.
  • Dylunio a Thechnoleg: Dylunio strap/cas gwell i sicrhau bod y micro:bit yn ddiogel hyd yn oed yn ystod lefelau uchel o weithgaredd corfforol; Creu prototeip a’i brofi gan ddefnyddio micro:bit 'ffug' o faint a phwysau tebyg; Cael adborth defnyddwyr ynghylch cysur, hwylustod defnydd ac ati ac addasu'r dyluniad yng ngoleuni'r adborth hwn.
  • Cyfrifiadureg/TGCh: Trafod sut mae dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio technoleg – gan ddefnyddio enghreifftiau cyfarwydd; trafod rhai o’r materion diogelwch ar-lein sy’n ymwneud â chasglu data personol, cydsyniad a phreifatrwydd.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Archwilio dysgu peirianyddol. video

Archwiliwch sut mae cyfrifiaduron yn dysgu o ddata gan ddefnyddio adnodd dysgu peirianyddol newydd micro:bit. Cewch hwyl yn hyfforddi eich model dysgu peirianyddol eich hun.

Archwilio dysgu peirianyddol

Beth nesaf? video

Mwynhewch ddewis gweithgareddau ymestynnol gyda’ch dosbarth ar ôl i chi gwblhau’r arolwg iard chwarae.

Beth nesaf?

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae

Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae