Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel traciwr gweithgaredd corfforol (physical activity tracker) sy'n gallu cael ei wisgo i gofnodi symudiadau corfforol y disgyblion ar iard chwarae’r ysgol. Mae disgyblion yn ateb y cwestiynau:
Pa fath o weithgaredd corfforol ydyn ni’n ei wneud ar iard chwarae’r ysgol? Pa mor gywir yw’r data?
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Tilly: Helo 'na. Fy enw i yw Tilly, ac ro'n i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed ar yr iard chwarae, yn enwedig yn y gôl. Beth amdanat ti?
Yussef: Yussef ydw i, ac ro'n i'n arfer rhedeg rownd yr iard yn chwarae tag gyda'm ffrindiau. Ond ro'n i allan o wynt erbyn y diwedd.
Tilly: Mae'n debyg bod hynny am dy fod yn gwneud lot o weithgaredd corfforol, sy'n fy arwain at ein tasg nesaf. Rydyn ni am weld sut allwn ddefnyddio micro:bit y BBC i gofnodi hynny.
Yussef: Ac mae gan Lionardo o Gasnewydd, yng Nghymru, gwestiwn pwysig i ni.
Lionardo: Sut fath o weithgareddau sy'n digwydd ar iard chwarae'r ysgol?
Tilly: Mae hwnna'n gwestiwn mor ddiddorol a dw i'n llawn cyffro achos gallwn ni ddefnyddio'r micro:bit i ddarganfod hyn.
Yussef: Go iawn? Sut?
Tilly: Wel, rydyn ni am wisgo ein micro:bit wrth dreulio amser yn yr iard chwarae ac mae'n mynd i gofnodi ein gweithgaredd corfforol, diolch i draciwr gweithgaredd y gallwn ei osod arno. Cafodd y rhaglen hon ei chreu yn bwrpasol ar gyfer y micro:bit gan ddefnyddio dysgu peirianyddol.
Yussef: Beth yw hynny?
Tilly: Yn ôl cyfrifiadurwyr, dysgu peirianyddol yw pan rydyn ni'n hyfforddi cyfrifiadur i ddysgu o ddata rydyn ni ein ei roi mewn. Er enghraifft, wyt ti 'di clywed am watsys tracio ffitrwydd neu apiau cyfrif camau?
Yussef: Dw i wedi, ydw.
Tilly: Maen nhw'n defnyddio caledwedd o'r enw mesurydd cyflymiad i synhwyro a mesur symudiad. Mae rhaglen feddalwedd wedi'i hyfforddi drwy ddysgu peirianyddol yn cymryd data'r symudiad hwn. Ac am ei bod wedi'i hyfforddi, gall adnabod ein symudiadau. Rydyn ni'n galw hyn yn fodel. Ychydig fisoedd yn ôl, gofynnon ni i blant wisgo dyfeisiau micro:bit ar yr iard chwarae a symud o gwmpas lot. Cadwon ni'r data hwnnw o fesurydd cyflymiad y micro:bit. Cymerodd arbenigwr cyfrifiadureg y data symudiadau yma a'i ddefnyddio i hyfforddi rhaglen arbennig o'r enw model dysgu peirianyddol, sydd bellach yn adnabod pan fyddwn yn gwneud gwahanol bethau yn yr iard chwarae, fel rhedeg a neidio. Mae'r model yn rhedeg ar y rhaglen tracio gweithgaredd corfforol ar ein micro:bit rŵan.
Yussef: Mae hwnna'n cŵl. Mae'n swnio'n debyg iawn i ddeallusrwydd artiffisial.
Tilly: Ie, rydyn ni'n clywed am AI ym mhob man y dyddiau hyn. Ac mae dysgu peirianyddol yn fath penodol o AI ble rydyn ni'n hyfforddi cyfrifiaduron i adnabod gwahanol fathau o ddata.
Yussef: Mae hynny mor ddiddorol. Dw i methu aros i'w drio. Awn ni i'w gwisgo nhw?
Tilly: Ie! Af i am sbrint, am mai dyna beth fydda i fel arfer yn ei wneud.
Yussef: Swnio'n dda. Dw i'n credu eistedda i fan hyn a darllen fy llyfr.
Tilly: Edrycha ar hwnna! Mae'n gwybod es i am sbrint, a hyd yn oed yn sylwi y neidiau gwnes i ar y diwedd.
Yussef: Ac mae'n gallu dweud fy mod i wedi eistedd yn llonydd. Mae hynny'n wych ac yn wefreiddiol!
Tilly: Nid jyst yn wefreiddiol, ond yn hynod ddefnyddiol. Pe bydden ni'n gwisgo'r rhain trwy'r dydd, mi fuasai'n rhoi syniad da faint o symud corfforol rydyn ni'n ei wneud, faint o orffwys rydyn ni'n ei gael, a faint yn fwy o'r ddau y dylen ni ei gael.
Yussef: Dw i'n bendant am wisgo fy un i am weddill y dydd.
Tilly: Dw i wir yn credu ei fod mor anhygoel sut y gall technoleg fod o fudd i'n hiechyd a lles. Mae'n debyg i sut mae technoleg yn fy helpu i symud gyda fy mreichiau bionig. Hebddyn nhw, ni fuaswn yn gallu gwneud rhai pethau na gwneud gwahanol bethau mor hawdd ag ydw i. Nawr, eich tro chi yw hi. Gwisgwch eich micro:bit allan ar yr iard amser cinio ac amser egwyl a gweld os yw'n gallu tracio eich gweithgarwch corfforol. Ond peidiwch anghofio pa mor bwysig yw casglu data cywir. Felly peidiwch â rhedeg o gwmpas yn wirion jyst ar gyfer y data. Nawr, allan o 'ma! Welwn ni chi'r tro nesa!
Sut mae cwblhau’r gweithgaredd
Lawrlwythwch yr adnoddau. documentLawrlwythwch yr adnoddau
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Rhowch y cod ar y micro:bit. External LinkRhowch y cod ar y micro:bit
Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i lawrlwytho'r cod arbennig.

Gweld eich data symudiad. External LinkGweld eich data symudiad
Gallwch ddehongli graffiau sy’n dangos eich data symudiad, trafod darganfyddiadau a phenderfynu ar gywirdeb y data.

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
- I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, bydd angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon arnoch chi.
- Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i archwilio eu lefelau gweithgaredd corfforol eu hunain, ac mae'n cynnig y cyfle i drafod y syniad bod angen cydbwysedd o wahanol lefelau o weithgaredd arnynt i gadw'n iach.
- Bydd disgyblion yn defnyddio’r micro:bit fel dyfais ddigidol y gellir ei gwisgo i gofnodi gwybodaeth am eu lefelau gweithgaredd corfforol dros gyfnod o amser. Gelwir y broses hon yn cofnodi data. Byddant yn dysgu bod gan y micro:bit synhwyrydd parod, sef y cyflymydd y gellir ei ddefnyddio i fesur pan fydd y micro:bit yn cael ei symud i gyfeiriadau gwahanol.
- Bydd disgyblion yn defnyddio rhaglen tracio gweithgaredd arbennig gan ddefnyddio math penodol o ddeallusrwydd artiffisial o’r enw dysgu peirianyddol. Dysgu peirianyddol yw lle mae meddalwedd cyfrifiadurol yn cael ei ddylunio i gyflawni tasg yn gyflym ac yn ddibynadwy ar ôl cael ei hyfforddi gan ddata a ddarperir gan bobl. Gellir disgrifio’r broses hyfforddi hon fel ‘dysgu’ a dyma pam rydyn ni’n defnyddio’r term ‘dysgu peirianyddol’. Mae’r system gyfrifiadurol yn cael samplau o ddata sy’n cael eu categoreiddio a’u labelu gan bobl i helpu meddalwedd dysgu peirianyddol i adeiladu model. Gall y model wedyn ddefnyddio’r set o reolau a ddatblygwyd gan system dysgu peirianyddol i gategoreiddio data newydd.
Pynciau sy’n cael sylw
- Gwyddoniaeth: Corff dynol - sgerbydau a chyhyrau; Cynnal ymchwiliad i ateb cwestiwn gwyddonol; Defnyddio offer i gynnal ymchwiliad.
- ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Gwybod bod angen cydbwysedd o fathau a lefelau o weithgaredd corfforol arnom i gadw’n iach.
- Mathemateg: Darllen a dehongli data ar ffurf tabl, siartiau a graffiau.
- Cyfrifiadureg/TGCh: Mewnbynnau ac allbynnau; Cofnodi a storio data; Defnyddio synhwyrydd e.e. cyflymydd.
Awgrymiadau o amcanion dysgu
- Cyflwyniad a chynllunio: Ymchwilio i’r gwahanol fathau o weithgaredd corfforol disgyblion sy’n digwydd ar iard chwarae’r ysgol yn ystod amser egwyl ac amser cinio.
- Cyfrifiadureg: Deall bod modd defnyddio math o raglennu cyfrifiadurol o’r enw dysgu peirianyddol i hyfforddi rhaglen gyfrifiadurol i adnabod amrywiaeth o weithgareddau corfforol.
- Gwaith maes: Defnyddio BBC micro:bit i gofnodi data dros gyfnod o amser.
- Dadansoddi a chofnodi data: Bod yn hyderus wrth ddarllen a dehongli eu data gweithgaredd ar ffurf graffiau a thablau; Deall cyfyngiadau technoleg.
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
- Gwyddoniaeth: Cysylltu traciwr gweithgareddau micro:bit ag ymchwiliad i newidiadau mewn curiad calon/pwls cyn, yn ystod ac ar ôl gwahanol fathau o ymarfer corff.
- ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Creu cyflwyniad grŵp sy’n egluro pwysigrwydd gwahanol fathau o weithgaredd corfforol i iechyd a lles - ceisiwch ei anelu at wahanol gynulleidfaoedd – e.e. rhieni, plant iau ac ati.
- Mathemateg: Cyflwyno rhywfaint o’r data crai mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd (gan gynnwys gwahanol fathau o graffiau sy’n defnyddio TGCh); Defnyddio’r data i archwilio cysyniadau fel cyfartaleddau neu ganrannau.
- Daearyddiaeth: Cysylltu data o’r traciwr gweithgareddau â lleoliad yn yr iard chwarae ac ateb cwestiynau sy’n ymwneud ag ymholiadau daearyddol am yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’r iard chwarae; Creu map o’r iard chwarae ac ychwanegu symbolau map ac allwedd i ddangos tiroedd a nodweddion/adnoddau’r iardiau chwarae, a lleoli lle mae gwahanol fathau o weithgareddau’n digwydd.
- Celf a dylunio: Defnyddio atebion yr ymholiad Daearyddol i ddylunio cynllun/nodweddion/adnoddau’r iard chwarae ‘ddelfrydol’.
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio strap/cas gwell i sicrhau bod y micro:bit yn ddiogel hyd yn oed yn ystod lefelau uchel o weithgaredd corfforol; Creu prototeip a’i brofi gan ddefnyddio micro:bit 'ffug' o faint a phwysau tebyg; Cael adborth defnyddwyr ynghylch cysur, hwylustod defnydd ac ati ac addasu'r dyluniad yng ngoleuni'r adborth hwn.
- Cyfrifiadureg/TGCh: Trafod sut mae dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio technoleg – gan ddefnyddio enghreifftiau cyfarwydd; trafod rhai o’r materion diogelwch ar-lein sy’n ymwneud â chasglu data personol, cydsyniad a phreifatrwydd.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Archwilio dysgu peirianyddol. videoArchwilio dysgu peirianyddol
Archwiliwch sut mae cyfrifiaduron yn dysgu o ddata gan ddefnyddio adnodd dysgu peirianyddol newydd micro:bit. Cewch hwyl yn hyfforddi eich model dysgu peirianyddol eich hun.

Beth nesaf? videoBeth nesaf?
Mwynhewch ddewis gweithgareddau ymestynnol gyda’ch dosbarth ar ôl i chi gwblhau’r arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
