Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel cyfrifiannell pellter (distance calculator) i fesur pellteroedd o fewn iard chwarae’r ysgol. Bydd y disgyblion yn defnyddio’r pellteroedd hyn i gyfrifo arwynebedd. Bydd y disgyblion yn ateb y cwestiwn:
Beth yw arwynebedd yr iard chwarae?
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Shereen: Helo, shwmae bawb. Shereen ydw i, a heddiw dw i am ddangos i Manny rhywbeth anhygoel gallwch wneud fan hyn, yn yr iard chwarae.
Big Manny: Dyma gwestiwn diddorol iawn gan Precious yn Llundain.
Precious: Beth yw arwynebedd eich iard chwarae?
Big Manny: Felly pam mae'n ddefnyddiol gwybod maint iard ein hysgol?
Shereen: Wel, os ydyn am gymharu ein iard ni gydag unrhyw un arall yn y DU, mae gwybod ei maint yn mynd i fod yn bwysig iawn. Hefyd, gallwn groesgyfeirio'r data hwn gyda bioamrywiaeth, tymheredd, a hyd yn oed ein lefel gweithgaredd corfforol.
Big Manny: Mae hynny'n reit cŵl.
Shereen: Dw i am ddangos pa mor hawdd yw mesur yr iard chwarae drwy godio'r BBC micro:bit i fod yn fesurydd pellter. Arwynebedd yw maint yr ardal o fewn siâp. Os yw'n betryal, gallwn gymryd yr hyd a'r lled a'u lluosi. Mae'r iard chwarae yma'n siâp afreolaidd, felly bydd rhywfaint o ddatrys problemau, ei rhannu'n betryalau llai. Y cam cyntaf yw rhaglennu dy BBC micro:bit. Reit, dw i am adeiladu'r rhaglen micro:bit yn y golygydd MakeCode. Dw i am i ti edrych ar y cod a gweld os fedri di ddeall sut i ddefnyddio'r adnodd cyfrif pellter yn gywir.
Big Manny: Cŵl. Dw i'n barod i roi cynnig arni. Felly, ar y dechrau, mae'r cyfrif camau ar 0. Pan wyt ti'n pwyso botwm A, mae'n ychwanegu 1 i'r cyfrif camau a phan wyt ti'n pwyso botwm B, mae'n dangos y cyfrif camau wedi'i luosi gyda hyd y camau. Iawn, felly rhaid pwyso botwm A pob tro chi'n cymryd cam, ac yna pwyso B i gael y pellter mewn metrau.
Shereen: Iawn. Gad i ni weld wyt ti'n iawn.
Big Manny: Iawn. Camu a phwyso, camu a phwyso. Beth? Mae'n gweithio!
Shereen: Ydy. Mae'n cŵl, yn dydy? A be dw i'n hoffi am y rhaglen hon yw ei bod yn cyflymu yr holl broses mesur.
Big Manny: Cŵl. Dw i'n barod am yr her nesaf.
Shereen: Rydym wedi rhannu'r iard yn betryalau. Wyt ti'n cofio pa ran o'r cod sy'n mesur y pellter i ni gerdded?
Big Manny: Ai hyd y camau?
Shereen: Ie, yn union. Mae o wedi'i osod i hyd cyfartalog dy gamau. Felly chei di ddim camu fel hyn, na hyn.
Big Manny: Beth am fel hyn?
Shereen: Na! Dim ond camau cyson rheolaidd. A chofia gyda phob cam, rhaid pwyso botwm A. Felly cam, cam, cam, cam.
Big Manny: Os wyt ti'n ddefnyddiwr cadair olwyn, alli di newid hyd cyfartalog y camau i gylchedd dy olwyn?
Shereen: Galli, a phwyso'r botwm ar bob tro llawn.
Big Manny: Cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam, cam. Ti'n gwybod be? Mae'r mesuriad hwn yn rhy fawr.
Shereen: Pwysaist ti'r botwm ailosod?
Big Manny: O, ie! Mi wna'i hynny nawr. Cam… Wow! Mae eisiau bod yn ofalus fan hyn. Cam, cam, cam, cam, cam. Cam, cam, cam, cam, cam. Cam, cam, cam, cam. Felly, ni'n gwybod arwynebeddau ein holl betryalau bach, y cwbl sy'n rhaid gwneud nawr yw eu hadio at ei gilydd a chael y cyfanswm ar gyfer yr iard gyfan. Un funud…
Shereen: A chofia, mae pellter yn cael ei fesur mewn metrau ond arwynebedd mewn metrau sgwâr.
Big Manny: Felly, mae'n 1,464.5m².
Shereen: Nawr, eich tro chi yw hi.
Big Manny: A chofiwch gymryd eich amser oherwydd araf a phwyllog sy'n ennill.
Y ddau: Hwyl!
Sut mae cwblhau’r gweithgaredd
Lawrlwythwch yr adnoddau. documentLawrlwythwch yr adnoddau
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, taflen waith i ddisgyblion, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Rhaglennwch y micro:bit. External LinkRhaglennwch y micro:bit
Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i gael cyfarwyddiadau codio neu i lawrlwytho'r cod.

Dadansoddi data eich dosbarth. External LinkDadansoddi data eich dosbarth
Cyfle i drafod darganfyddiadau, gwneud cysylltiadau ac ystyried gweithrediadau sy’n ymwneud â data.

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
- I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, byddwch chi angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon a’r daflen waith i ddisgyblion.
- Ymchwiliad mathemategol yw’r gweithgaredd hwn yn bennaf. Mae’n edrych ar fesur hyd/pellter a chyfrifo arwynebedd gan ddefnyddio mesurau safonol. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio unedau mesur a dulliau mesur safonol ac ansafonol.
- Bydd cyfleoedd i drafod pwysigrwydd cymryd mesuriadau gofalus a chywir a sut y gallai gwahanol offer mesur effeithio ar hynny, yn ogystal â defnyddio rhagdybiaethau o’r byd go iawn a mesuriadau safonol.
Pynciau sy’n cael sylw
- Cyfrifiadureg/TGCh: Mewnbynnau ac allbynnau; Newidynnau; Digwyddiadau.
- Mathemateg a Rhifedd: Hyd; Arwynebedd; Unedau mesur; Cyfartaleddau; Cyfrifiad.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Gwaith maes (gwneud bras-fapiau).
Awgrymiadau o amcanion dysgu
- Cyflwyniad a chynllunio: Datblygu sgiliau amcangyfrif arwynebedd a datrys problemau sy'n ymwneud â mesur (Mathemateg a Rhifedd)
- Codio dewisol: Dylunio, ysgrifennu a dadfygio rhaglenni sy’n cyflawni nodau penodol gan gynnwys defnyddio ac egluro algorithmau; Gweithio gyda newidynnau a gwahanol fathau o fewnbwn ac allbwn (Cyfrifiadureg/TGCh)
- Gwaith maes: Cymryd rhan mewn ymholiad/arolwg, casglu data gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, a defnyddio’r data i ateb cwestiwn (Gwyddoniaeth/Daearyddiaeth/Dyniaethau)
- Dadansoddi a chofnodi data: Defnyddio unedau mesur cyffredin, trosi rhwng unedau mesur cysylltiedig a gwneud cyfrifiadau wrth ddatrys problemau; Cyfrifo a dehongli’r cymedr fel cyfartaledd (Mathemateg a Rhifedd); Dehongli gwybodaeth yng nghyd-destun cwestiwn ymholiad (Mathemateg a Rhifedd/Daearyddiaeth/Dyniaethau).
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
- Mathemateg a Rhifedd: Mesur perimedr yr iard chwarae, neu wahanol fathau o ardaloedd chwarae – defnyddiol ar gyfer cwestiynau am gost ffensys, faint o baent sydd ei angen ar gyfer peintio llinellau – gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cwestiynau’r byd go iawn; Cymharu mesuriadau safonol/ansafonol drwy ailadrodd y gweithgaredd gan ddefnyddio tapiau mesur/prennau metr; Cyfrifo’r gymhareb rhwng arwynebau synthetig ac arwynebau naturiol yn eich iard chwarae.
- Cyfrifiadureg/TGCh: Defnyddio offer mapio digidol i gymryd sgrinluniau o dir yr ysgol i’w defnyddio ar gyfer mesuriadau cymharu; trafodaethau ar gywirdeb dyfeisiau rhifo camau a chyfyngiadau technoleg; Gallai’r disgyblion archwilio sut i newid y cod i ddefnyddio mewnbwn gwahanol yn hytrach na chlicio i gofrestru camau.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Gwaith maes: creu eu bras-fapiau eu hunain o’r iard chwarae gan ddefnyddio symbolau ac allwedd i adnabod nodweddion – e.e. mathau o arwyneb.
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio cês neu flwch i ddiogelu’r micro:bit ac i helpu’r defnyddiwr i'w weithredu'n gywir fel cyfrifiannell pellter.
- Saesneg: Ysgrifennu llythyr i ddweud wrth rywun am eich canfyddiadau.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Cofnodi ein gweithgaredd corfforol. videoCofnodi ein gweithgaredd corfforol
Gofynnwch i’r disgyblion ddefnyddio rhaglen arbennig 'Activity tracker' yn y micro:bit i gadw golwg ar eu symudiadau corfforol ar iard chwarae eu hysgol.

Archwilio dysgu peirianyddol. videoArchwilio dysgu peirianyddol
Archwiliwch sut mae cyfrifiaduron yn dysgu o ddata gan ddefnyddio adnodd dysgu peirianyddol newydd micro:bit. Cewch hwyl yn hyfforddi eich model dysgu peirianyddol eich hun.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
