Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio’r BBC micro:bit fel thermomedr i gofnodi tymheredd yr arwyneb mewn pedair rhan wahanol o iard chwarae’r ysgol. Bydd y disgyblion yn ateb y cwestiwn:
Sut mae deunydd arwyneb yr iard chwarae yn effeithio ar dymheredd yr arwyneb?
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Big Manny: Shwmae bawb. Croeso i'r iard chwarae. Heddiw, dw i am ddangos i Shereen sut ddefnyddio ei BBC micro:bit i gasglu gwybodaeth cŵl am y lleoliad hwn.
Shereen: Ydyn, rydyn ni am gynnal ymchwiliad gwyddonol.
Big Manny: I ddechrau, mae gennym gwestiwn diddorol gan Katie, o Larbert yn yr Alban.
Katie: Sut mae deunydd arwyneb eich iard chwarae yn effeithio ar dymheredd yr arwyneb?
Big Manny: Iawn. Felly ein gwaith ni yw ceisio rhoi ateb i Katie gan fesur a chymharu tymheredd gwahanol fathau o arwyneb yn yr iard chwarae gan ddefnyddio dim ond y micro:bit. Rydyn ni am fesur dau fath o arwyneb sydd wedi'u gwneud o ddeunyddiau naturiol. Pethau o'r amgylchedd naturiol.
Shereen: Pethau fel pridd, rhisgl, a glaswellt?
Big Manny: Ie, yn union. Ac rydym am fesur dau arwyneb o ddeunyddiau synthetig sy'n golygu eu bod wedi eu creu gan bobl, felly pethau fel metel, tarmac ac astrotyrff.
Shereen: Felly, dau naturiol a dau synthetig. Credu mod i'n deall.
Big Manny: Iawn. Felly'r peth cyntaf sydd angen i ni ei wneud yw defnyddio'r golygydd MakeCode i raglennu'r micro:bit ac yna, gallwn ni ei droi mewn i thermomedr. Bant a ni.
Shereen: Iawn. Amdani! … O! Roedd hwnna'n hawdd iawn! Betia'i alli di wneud hwnna yn sefyll ar dy ben!
Big Manny: Ie, mae'r cod ar gyfer hwn yn eitha syml. Casglais fy nata yn gynharach o bedwar man gwahanol, i gyd yn yr heulwen. Nawr yr her i ti yw mesur a chofnodi dy dymereddau yn gywir. Os wyt ti, fe ddylen ni weld yr un patrymau yn nata'r tymheredd.
Shereen: Ffwrdd â ni!
Big Manny: Rhaid sicrhau bod y micro:bit yn fflat ar yr arwyneb neu fel arall, bydd y synhwyrydd yn mesur tymheredd dy law.
Shereen: Iawn. Cŵl. Un, dau, tri…58, 59 a 60. Un, dau, tri…58, 59, 60…59, 60. Un, dau, tri…58, 59, 60.
Big Manny: Iawn. Mae dy ganlyniadau di fymryn yn wahanol i fy rhai i. Ond fe welwn lot o debygrwydd o fewn patrymau'r data a chredaf y gallwn ateb cwestiwn Katie nawr.
Shereen: Ie, mae'n edrych fel bod y deunyddiau naturiol yn yr iard chwarae hwn yn oerach na'r rhai synthetig. Ond pam hynny?
Big Manny: Ar gyfartaledd, pan fo nhw wedi cynhesu, mae deunyddiau synthetig yn tueddu i gadw'r gwres yn hirach.
Shereen: A dyna pam ei fod yn bwysig ystyried yn ofalus pa ddeunyddiau rydym yn eu defnyddio. Mae'r bobl sy'n dylunio lleoedd chwarae angen sicrhau nad yw'r arwynebau yn poethi gormod pan mae'n heulog.
Big Manny: Yn union. Ac am fod ein planed yn cynhesu gall y math hwn o ddata fod yn bwysig iawn i benseiri a dylunwyr pan fo nhw'n cynllunio ein cartrefi a'n cymunedau hefyd. Weithiau, gall newidiadau bach mewn tymheredd cael effaith mawr, yn enwedig ar bethau fel planhigion a bywyd gwyllt. Nawr eich bod yn gwybod beth i'w wneud, am beth ydych chi'n disgwyl?
Shereen: Ewch ati eich hunain a gweld pa batrymau tymheredd sydd yn eich iard chwarae chi.
Y ddau: Hwyl!
Sut mae cwblhau’r gweithgaredd
Lawrlwythwch yr adnoddau. documentLawrlwythwch yr adnoddau
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon, taflen waith i ddisgyblion, poster dosbarth, map cwricwlwm, a'r llythyr ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Rhaglennwch y micro:bit. External LinkRhaglennwch y micro:bit
Ewch i ganllaw Sefydliad Addysgol Micro:bit i gael cyfarwyddiadau codio neu i lawrlwytho'r cod.

Dadansoddi data eich dosbarth. External LinkDadansoddi data eich dosbarth
Cyfle i drafod darganfyddiadau, gwneud cysylltiadau ac ystyried gweithrediadau sy’n ymwneud â data.

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
- I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, byddwch chi angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon a’r daflen waith i ddisgyblion.
- Ymchwiliad gwyddonol yw’r gweithgaredd hwn yn bennaf. Mae’n gysylltiedig â phriodweddau thermol gwahanol ddeunyddiau. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i feddwl am brofion teg, cymryd a chofnodi mesuriadau dro ar ôl tro a dadansoddi eu data.
- Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio a datblygu sgiliau mathemategol gan gynnwys dulliau trin data (tablau data, siartiau bar, graffiau llinell) a dadansoddiadau ystadegol syml (cyfrifo cyfartaleddau, canrannau).
- Mae hefyd yn enghraifft dda o waith maes daearyddol, i alluogi disgyblion i ateb cwestiynau daearyddol am yr ardal leol.
Pynciau sy’n cael sylw
- Cyfrifiadureg/TGCh: Mewnbynnau ac allbynnau; Defnyddio synhwyrydd; Digwyddiadau.
- Gwyddoniaeth: Priodweddau thermol deunyddiau, cymryd a chofnodi mesuriadau; Cynefinoedd (heulog a chysgodol) sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth a dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid.
- Mathemateg a Rhifedd: Cyfartaledd.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Tywydd; Nodweddion dynol/ffisegol; Gwneud gwaith maes i ateb cwestiwn.
- Dylunio a Thechnoleg: Defnyddio eu dealltwriaeth o gyfrifiadureg i raglennu, monitro a rheoli eu cynnyrch; Dylunio cynnyrch i gyflawni briff dylunio a/neu ddatrys problem.
Awgrymiadau o amcanion dysgu
- Cyflwyniad a chynllunio: Cymharu a grwpio deunyddiau bob dydd ar sail eu priodweddau, gan gynnwys eu dargludedd thermol (Gwyddoniaeth).
- Codio dewisol: Cyfuno blociau cod i greu rhaglen; Deall mewnbwn/allbwn; Deall newidynnau syml (Cyfrifiadureg/TGCh).
- Gwaith maes: Mesur tymheredd gan ddefnyddio unedau safonol priodol (Mathemateg a Rhifedd); Cymryd mesuriadau, defnyddio amrywiaeth o offer gwyddonol, gan gynyddu cywirdeb a manylder a chymryd darlleniadau ailadroddus pan fo’n briodol (Gwyddoniaeth).
- Dadansoddi a chofnodi data: Cydnabod bod newidiadau mewn deunyddiau yn effeithio ar eu priodweddau a’u defnyddiau (Gwyddoniaeth); Cyfrifo a dehongli’r cymedr fel cyfartaledd, a dehongli gwybodaeth yng nghyd-destun cwestiwn ymholiad (Mathemateg/Daearyddiaeth/Dyniaethau).
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
- Gwyddoniaeth: Rhoi cynnig ar yr ymchwiliad ar ddiwrnodau heulog/cymylog, mewn tymhorau gwahanol ac ar ôl newidiadau i’r iard chwarae; edrych ar wahanol ddeunyddiau yn ôl yn yr ystafell ddosbarth i ddysgu mwy am eu priodweddau thermol.
- Mathemateg a Rhifedd: Cyflwyno’r data mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol (gan gynnwys gwahanol fathau o graffiau); cyfrifo’r gwahaniaethau canrannol.
- Daearyddiaeth/Dyniaethau: Creu mapiau o’r iard chwarae sy’n dangos lleoliad gwahanol arwynebau, haul neu gysgod; gwneud rhagor o waith maes/arolygon i ateb cwestiynau daearyddol tebyg.
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio cês neu flwch i ddiogelu’r microbit ac i helpu’r defnyddiwr i’w weithredu’n gywir fel thermomedr.
- Celf/Saesneg: Dylunio hysbyseb papur newydd ar gyfer thermomedr micro:bit; Ysgrifennu at rywun ynglŷn ag ail-ddylunio iard chwarae.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Ymchwilio i fioamrywiaeth. videoYmchwilio i fioamrywiaeth
Defnyddiwch y rhaglen 'Biodiversity counter' yn y micro:bit i ymchwilio i nifer y gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn eich iard chwarae.

Mesur arwynebedd. videoMesur arwynebedd
Mesurwch bellteroedd i gyfrifo arwynebedd iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Distance calculator' yn y micro:bit.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
