Main content
Tymor arbennig ar BBC Radio Cymru i gofnodi canmlwyddiant geni’r nofelydd a’r bardd T Llew Jones (11 Hydref 1915–9 Ionawr 2009) ac i ddathlu ei waith a’i ddylanwad ar lenyddiaeth Cymru.
Supporting Content
Tymor T Llew Jones ar Radio Cymru
Dyma rai o'r rhaglenni sy'n rhan o ddathliad Radio Cymru o fywyd, gwaith a dylanwad T Llew Jones. Gwrandewch ar-alw ar wefan Radio Cymru.
Beti a’i Phobol: Cofio T Llew Jones – Rhan 1
Beti a’i Phobol: Cofio T Llew Jones – Rhan 2
Ail-ddarllediad o sgwrs a recordiwyd pan oedd T Llew yn 80 oed.
Dydd Mercher 30 Medi a 7 Hydref
Caryl Parry Jones
Trafodaeth ar Ddawn y Cyfarwydd.
Dydd Iau 1 Hydref
Dylanwadau
Pum sgwrs wnaeth T Llew Jones yn 1992 am y dylanwadau arno, i'w clywed yn ystod Bore Cothi.
Bore Llun–Gwener 5–9 Hydref
Talwrn T Llew
Recordio rhifyn arbennig o'r Talwrn yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre, gyda thîm y Beirdd Plant (Aneirin Karadog, Eurig Salisbury, Anni Llŷn a Tudur Dylan Jones) yn herio beirdd Sir Aberteifi (Idris Reynolds, Emyr Oernant, Endaf Griffiths, Catrin Haf Jones).
Nos Fawrth 6 Hydref am 7yh. I'w darlledu y Sul canlynol.
Bore Cothi
Darllediad byw o ysgol T Llew Jones, Brynhoffnant, Llandysul.
Dydd Gwener 9 Hydref
Arswyd y Byd
Stori'r Hen Gapten
Y Dyn a'r Graith Las
Plas Cwm Tywyll
Tair stori arswyd gan T Llew Jones sy’n codi ias, i'w clywed yn hwyr y nos!
Nos Wener, Sadwrn a Sul 9–11 Hydref
Cofio – Llenyddiaeth Plant
Bore Sadwrn 10 Hydref
Dewi Llwyd yn cymryd cip ar rai o’r dathliadau
Dei Tomos yn cofio T Llew Jones gyda nifer o sgyrsiau arbennig
Talwrn T Llew recordiwyd yn Nrefach Felindre yn gynt yn yr wythnos (gweler uchod).
T Llew Jones – Ein Tad
Swynodd genhedlaethau o blant gyda’i straeon. Yn ei farddoniaeth, mynegodd rhai o wirioneddau’r galon. Mewn sgwrs gyda’i ddau fab a'i ferch, bydd Beti George yn cyflwyno portread o’r dyn oedd yn un o fawrion Cymru.
Dydd Sul 11 Hydref
Llyfr Bob Wythnos: Trysor Plasywernen
Sian Teifi yn darllen un o glasuron T Llew Jones, yn ystod Bore Cothi.
Llun–Gwener 12–16 Hydref
Gari Wyn
Dr Elin Jones a John Dilwyn yn trafod dysgu hanes Cymru yn ein hysgolion.
Dydd Llun 12 Hydref
John Walter Jones
Golwg ar addysg yng nghefn gwlad
Dydd Mercher 14 Hydref

