Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf

Beth yw Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf?
I ddathlu bod Penwythnos Mwyaf BBC Music yn dod i bedair dinas ym mhedair gwlad y DU, mae’r BBC yn cynnal Gŵyl Ymylol 10 diwrnod ledled y DU gan ddechrau ddydd Gwener 18 Mai 2018. Byddwn yn cyhoeddi digwyddiadau’r Ŵyl Ymylol sy’n cael ei threfnu gan y BBC yn y 4 dinas yn fuan, ond rydyn ni eisiau i gymaint o leoliadau lleol ac annibynnol drefnu cerddoriaeth fyw o dan ymbarél Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf hefyd, er mwyn dathlu cerddoriaeth ledled y DU a rhannu ein hangerdd a’n brwdfrydedd dros gerddoriaeth newydd sy’n dod i’r amlwg.
...mae’r BBC yn cynnal Gŵyl Ymylol 10 diwrnod ledled y DU gan ddechrau ddydd Gwener 18 Mai 2018.
Mae modd i unrhyw leoliad, trefnydd neu hyrwyddwr cerddoriaeth yn y DU gymryd rhan yng Ngŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf, ac fe ddylai’r digwyddiadau adlewyrchu amrywiaeth o lwyfannau a genres cerddoriaeth – gan gynnwys indie, grime, DJs a llefaru. Bydd yr holl ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn gallu defnyddio brand Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf ac yn cael eu rhestru fel un o ddigwyddiadau swyddogol Gŵyl Ymylol y BBC ar ein tudalennau gyda Skiddle, ein darparwr rhestrau a/neu docynnau. Byddwn yn defnyddio sianeli radio lleol a chenedlaethol y BBC i roi gwybod i’n cynulleidfaoedd am ddigwyddiadau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf, gan ddarparu rhaglen gynhwysfawr o gerddoriaeth fyw ledled y DU.
Cymryd rhan
Er mwyn gwneud cais, rhaid i'r lleoliad, yr hyrwyddwr neu’r trefnydd fodloni'r canlynol:
- Bod yn y DU - Meddu ar y trwyddedau a’r yswiriant angenrheidiol i gynnal y digwyddiad
- Trefnu digwyddiadau rhwng 18 a 28 Mai 2018
- Cofrestru a chydymffurfio â’r Telerau ac Amodau sy’n berthnasol i Bartneriaid Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf
Rhaid i leoliadau a hyrwyddwyr sydd eisiau cymryd rhan ddarparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol a chofrestru i gydymffurfio â’n Telerau ac Amodau.
Ar ôl i'r wybodaeth hon gael ei chymeradwyo gan y BBC, byddwch yn cael e-bost yn egluro sut mae rhestru’ch digwyddiad am ddim ar ein tudalennau Gŵyl Ymylol gyda Skiddle, ein darparwr rhestrau a/neu docynnau.
Byddwch hefyd yn cael y deunydd digidol perthnasol i’w ddefnyddio ar daflenni a phosteri. Bydd y cyfnod cofrestru yn cau am 23:59 ar 4 Mai 2018.
