Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf – Cwestiynau Cyffredin
Ga i ddefnyddio logo Gŵyl Ymylol y Penwythnos mwyaf ar fy ngwefan?
Fe gewch chi ddefnyddio logo'r Penwythnos Mwyaf ar bosteri, taflenni ac ar-lein ond ni ddylech ei addasu na’i newid mewn unrhyw ffordd. Bydd pecyn brandio gyda chanllawiau llawn yn cael eu hanfon atoch, yn ogystal â’r prif logo i’w ddefnyddio. Rhaid cydymffurfio â’r canllawiau hyn bob amser, a dim ond y deunydd yn yr e-bost cadarnhau y mae gennych hawl i’w ddefnyddio.
Ga i ddefnyddio’r logo ar y cyfryngau cymdeithasol?
Fe gewch chi ddefnyddio logo'r Penwythnos Mwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol ond ni ddylech ei addasu na’i newid mewn unrhyw ffordd. Bydd pecyn brandio gyda chanllawiau llawn yn cael ei anfon atoch, yn ogystal â’r prif logo i’w ddefnyddio. Rhaid cydymffurfio â’r canllawiau hyn bob amser, a dim ond y deunydd yn yr e-bost cadarnhau y cewch ei ddefnyddio.
Ga i ddefnyddio brand Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf ar gyfer noson sydd eisoes yn bodoli?
Cewch, gall digwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal rhwng dydd Gwener 18 a dydd Llun 28 Mai fod yn rhan o'r Ŵyl Ymylol. Fodd bynnag, cyn y bydd modd ei restru a’i ystyried yn rhan o’r Ŵyl Ymylol, rhaid cwblhau’r broses gofrestru ar gyfer Partneriaid yr Ŵyl Ymylol er mwyn sicrhau bod Telerau ac Amodau'r BBC yn berthnasol a bod y gwiriadau perthnasol wedi’u gwneud.
Ga i gynnal mwy nag un digwyddiad?
Cewch. Does dim cyfyngiad ar faint o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal, ar yr amod bod safon ac ansawdd y digwyddiadau hyn yn cydymffurfio â Gwerthoedd y BBC.
Oes rhaid i fy nigwyddiad ganolbwyntio ar gerddoriaeth?
Dathlu cerddoriaeth fyw yw bwriad y Penwythnos Mwyaf felly rydym yn gofyn bod digwyddiadau'r Ŵyl Ymylol yn cynrychioli amrywiaeth o arddulliau a genres cerddoriaeth.
Os ydw i’n gerddor, alla i gynnal noson?
Gallwch gynnal eich noson eich hun ar yr amod ei fod yn cydymffurfio’n llwyr â'r gyfraith Thelerau ac Amodau’r BBC.
Ga i gynnal digwyddiad ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed?
Cewch gynnal digwyddiad ar gyfer unrhyw ystod oedran, ar yr amod eich bod yn gofalu am les y gynulleidfa. Rhaid gweithredu polisi herio 25 wrth weini alcohol mewn unrhyw ddigwyddiad lle mae pobl ifanc o dan 18 oed. Cyfrifoldeb Partner yr Ŵyl Ymylol yw rheoli’r gynulleidfa.
Ga i gynnal gig yn fy nghartref?
Partner yr Ŵyl Ymylol sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddo'r yswiriant a’r dogfennau perthnasol ar gyfer ei ddigwyddiad a’i fod yn cydymffurfio’n llwyr â´r rheini. Dylid ystyried cael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac efallai y bydd rhaid gwneud cais am Hysbysiad ynghylch Digwyddiad Dros Dro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Oes angen trwydded arnaf i gynnal digwyddiad?
Cyfrifoldeb y trefnydd yw canfod a oes angen trwydded neu beidio, gan ei fod yn dibynnu ar sawl amod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Bydd gan y rhan fwyaf o leoliadau’r trwyddedau perthnasol, fodd bynnag, mae dyletswydd ar Bartner yr Ŵyl Ymylol i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le. Gallwch wneud cais am Hysbysiad ynghylch Digwyddiad Dros Dro os bydd angen. Mae rhagor o wybodaeth am Hysbysiadau ynghylch Digwyddiadau Dros Dro ar gael yma.
Oes angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus arnaf ar gyfer fy nigwyddiad?
Nid yw’n ofyniad cyfreithiol ond fe’ch cynghorir yn gryf i gael yswiriant os yw’ch digwyddiad yn ymwneud â’r cyhoedd. Rydym yn cynghori pob un o Bartneriaid yr Ŵyl Ymylol i gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Pa bris alla i ei godi am fy nigwyddiad?
Gall Partneriaid yr Ŵyl Ymylol bennu eu prisiau eu hunain ar gyfer eu tocynnau, ond fe ddylen nhw fod yn unol â chyfraddau presennol y farchnad. Tynnir sylw'r BBC at unrhyw brisiau anarferol o uchel a bydd y digwyddiad mewn perygl o dorri’r Telerau ac Amodau. Rhaid i Bartner yr Ŵyl Ymylol ddelio â refeniw'r tocynnau yn briodol, gan sicrhau bod y trethi perthnasol yn cael eu talu.
Ydy Skiddle yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio?
Gall Partneriaid yr Ŵyl Ymylol restru eu digwyddiadau ar Skiddle yn rhad ac am ddim. Os bydd Partneriaid yr Ŵyl Ymylol yn penderfynu defnyddio Skiddle fel cyflenwr tocynnau ar gyfer eu digwyddiad hefyd, codir tâl ar y cwsmeriaid sy’n prynu’r tocynnau.
Mae ffioedd archebu yn 10% o bris y tocyn, ac mae ffi ychwanegol o 25c, gydag isafswm o £1. Mae ffi Rapidscan, sy’n 50c ar gyfer pob tocyn, ond dim ond ar gyfer tocynnau sy’n costio mwy na £10. Ni chodir tâl ar y lleoliad na’r hyrwyddwyr oni bai eu bod yn dewis talu’r ffi archebu ar ran eu cwsmeriaid.
Mae gen i fy narparwr tocynnau fy hun; oes angen i mi ddefnyddio Skiddle?
Na, does dim angen Skiddle arnoch i ddelio â’r tocynnau os oes gennych chi gyflenwr eisoes, ond mae’n rhaid i chi restru eich digwyddiad ar dudalennau Gŵyl Ymylol Skiddle. Mae hyn yn ein galluogi ni i ddarparu rhestr gynhwysfawr o'r holl ddigwyddiadau mewn un lle.
Dydw i heb gael fy e-bost croeso sy’n cynnwys logo’r Ŵyl Ymylol a'r wybodaeth am Skiddle.
Mae'r BBC yn adolygu pob cais i fod yn Bartner yr Ŵyl Ymylol. Gall y broses hon gymryd rhai dyddiau. Ni fydd pob cais yn llwyddiannus oherwydd mae gan y BBC delerau a safonau penodol y mae’n rhaid eu bodloni. Gallai nifer y ceisiadau achosi oedi hefyd.
Pam dydw i ddim yn gallu gweld fy nigwyddiad ar Dudalennau Skiddle?
Bydd y BBC yn lansio tudalennau Gŵyl Ymylol Skiddle ddydd Gwener 16 Mawrth. Ni fydd modd gweld digwyddiadau sydd wedi cael eu llwytho i fyny cyn y dyddiad hwn. Hefyd, efallai na fydd digwyddiadau’n cael ei rhestru ar brif dudalennau Skiddle os nad ydynt yn bodloni’r Telerau ac Amodau.
Ga i argraffu'r logo?
Rhaid defnyddio'r logo yn unol â’r Canllawiau Brandio. Gellir argraffu'r logo ar bapur ond ni ddylid ei ddefnyddio i greu adnoddau brandio ffisegol fel baneri, blychau golau ac arwyddion rholio i fyny.
