Cyngor Abertawe yn cychwyn camau cyfreithiol yn erbyn Undeb Rygbi Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Abertawe wedi cychwyn camau cyfreithiol ffurfiol yn erbyn Undeb Rygbi Cymru (URC) mewn ymgais i atal y cynigion i werthu Rygbi Caerdydd i gwmni Y11.
Mae'r cyngor yn honni bod y cytundeb rhwng URC a Y11 - perchnogion y Gweilch - yn torri cyfraith gystadleuaeth y DU ac yn tanseilio proses ad-drefnu'r corff llywodraethu ar gyfer y gêm broffesiynol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart, ei fod yn credu bod URC "wedi gweithredu'n anghyfreithlon", gan addo "parhau i ymladd ar ran y Gweilch a chefnogwyr rygbi ledled Cymru".
Mae URC wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn hysbysiad o'r camau cyfreithiol gan y cyngor.

Mae URC eisiau lleihau nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri
Cyhoeddodd URC ym mis Hydref gynlluniau i leihau nifer timau proffesiynol Cymru o bedwar i dri erbyn 2027.
Y ddadl yw mai dim ond tri thîm all fod yn gynaliadwy ac yn gystadleuol o ystyried yr arian a'r chwaraewyr sydd ar gael.
Dywedodd URC y byddai tri chlwb - un yng Nghaerdydd, un yn y gorllewin ac un yn y dwyrain.
Fis diwethaf, cyhoeddodd URC mai Y11 Sport & Media - perchnogion presennol y Gweilch - oedd wedi'u dewis fel yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio i brynu Caerdydd.
Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi gofyn i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) gynnal ymchwiliad i'r cytundeb.
Dywedodd y cyngor eu bod "yn credu bod y cynigion mewn perygl o gyfyngu yn annheg ar gystadleuaeth, lleihau dewis i gefnogwyr a niweidio economi Abertawe".
Mae'r cyngor bellach yn dweud ei fod wedi agor achos cyfreithiol yn erbyn yr undeb, gan ddadlau bod y cynnig yn torri cyfraith gystadleuaeth y DU.
Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i'r Uchel Lys atal y cytundeb rhwng URC a Y11 dros dro er mwyn parhau gyda thrafodaethau.
Cais i'r Uchel Lys atal cytundeb i brynu Rygbi Caerdydd
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Cyngor Abertawe 'wedi cael gwybod na fyddai'r Gweilch yn bodoli'
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Wrth ymateb mae URC wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn llythyr yn hysbysu am y camau cyfreithiol gan y cyngor, "yn ogystal â datganiad cyhoeddus sy'n anghywir ynghylch cyfarfod diweddar".
"Fel y byddwch yn deall, rydym yn derbyn cyngor cyfreithiol ein hunain ac felly nid oes modd gwneud sylw pellach."
Ychwanegodd y llefarydd bod bwrdd URC yn gweithio i "sicrhau ffordd ymlaen i rygbi Cymru" yn wyneb heriau, a'u bod yn deall bod "rhain yn faterion anodd i bawb".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.