Gwobrau Tir na n-Og yn 50 oed

- Cyhoeddwyd
Mae Gwobrau Tir na n-Og, Cyngor Llyfrau Cymru yn 50 oed eleni.
Ers 1976 mae'r gwobrau yn nodi cyfraniad awduron llyfrau plant yng Nghymru.
Tân ar y Comin gan T Llew Jones gipiodd y wobr gyntaf un, wedyn daeth llyfrau poblogaidd fel Jabas gan Penri Jones a Tydi Bywyd yn Boen gan Gwenno Hywyn yn fuddugol.
Yn ôl pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, Bethan Jones, a oedd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, mae hi'n pryderu am y dyfodol oherwydd diffyg buddsoddiad.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n buddsoddi yn y cyfleoedd cyhoeddi llyfrau plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod yna arlwy cyfoethog i blant a digon o ddewis ar eu cyfer nhw.
"Dy'n ni'n eitha pryderus i fod yn onest bod dim digon o fuddsoddiad ar gyfer llyfrau plant, felly mae hynny'n rhywbeth dy'n ni'n gweithio'n galed gyda'r cyhoeddwyr er mwyn clustnodi'r gyllideb angenrheidiol sydd ei angen," meddai.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae enillwyr gwobr Tir na n-Og wedi cynnwys awduron fel Angharad Tomos, Manon Steffan Ros a Caryl Lewis.
Dros y misoedd nesaf bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan y Cyngor Llyfrau i nodi'r pen-blwydd arbennig.

T Llew Jones oedd enillydd cyntaf y wobr yn 1976b am ei gyfrol Tân ar y Comin
Fel rhan o'r dathliadau mae'r Cyngor Llyfrau yn gosod 'her ddarllen' sy'n addas ar gyfer oedolion a phobl ifanc.
"Fe fyddwn yn cyd-weithio'n agos gyda llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd er mwyn lledaenu'r neges ac annog pobl i falle ailgydio mewn darllen.
"Ym mis Mawrth byddwn ni yn cyhoeddi'r rhestrau byrion am eleni. Ac mae yna gyfrolau gwych ar y rhestrau byrion yna." meddai.
Yn ogystal â'r her bydd sioe lwyfan hefyd o'r llyfr enillodd yn 2018, sef Miss Prydderch gan Mererid Hopwood.
Bydd y Cyngor Llyfrau yn gweithio'n agos gyda'r Theatr Genedlaethol ac Arad Goch i gyflwyno'r ddrama i blant Cymru. Wrth edrych at y dyfodol, mae Bethan Jones yn nodi gwerth y gwobrau a phwysigrwydd buddsoddiad pellach yn y diwydiant.
"Mae llyfrau plant yn rhan o'n plentyndod ni ac yn rhan o'n hunaniaeth ni.
"Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n cynnal ac yn parhau gyda'r gwobrau ac yn anrhydeddu'r awduron a'r darlunwyr am eu gwaith.
"Mae'r gyllideb wedi aros yr un peth dros 15 mlynedd bellach, a dych chi'n gwybod pan dych chi'n edrych ar sut mae costau bywyd, costau argraffu wedi cynyddu, dydyn ni ddim gallu parhau i sicrhau'r arlwy yna.
"Felly mae wir angen defnyddio'r cyfle yma, nid yn unig i ddathlu, ond hefyd i edrych ar y dyfodol a sicrhau'r dyfodol er mwyn bod yna ddigon o lyfrau i blant, sef ein dyfodol ni, mewn ffordd," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Ionawr

- Cyhoeddwyd23 Ionawr

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2025
