Y mwyaf rwy'n meddwl am y peth, y mwyaf rwy'n siwr mai "wiwer" oeddwn i mewn bywyd arall - gan fy mod mor dueddol o gasglu o bethau, yn enwedig o bapurau.
Ddoe fe ddes ar draws darn o bapur wedi ei ddyddio Mai 18 1970 Dydd Ewyllys Da
Byddai'r ysgol yn dathlu'r diwrnod arbennig yma yn ddiffael ac yn gyntaf darllenwyd y neges yn y fam iaith ac wedyn yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac weithiau mewn Eidaleg gan orffen gyda'r Sbaeneg.
Pan oeddwn yn y dosbarth cyntaf edmygwn pa mor ddawnus â galluog oedd y merched mawr yn gallu llefaru mor rhugl yn yr ieithoedd yma.
I'r rhan fwyaf cyfle perffaith i osgoi gwersi oedd dathlu Dydd Ewyllys Da, ond i eraill yr oedd yna ystyr llawer dyfnach.
Bryd hynny, roeddwn yn nosbarth VI (Uchaf) Ysgol Ramadeg y Merched Tre Gwyr. Ers y dosbarth cyntaf yn yr ysgol uwchradd yn 1963, roedd wedi bod yn obaith gennyf cael fy newis i ddarllen y neges ar Fai 18.
Cael fy newis Pan ddaeth Dydd Ewyllys Da 1970 cefais innau fy newis i ddarllen y neges ac rwy'n dal i gofio sefyll ar y llwyfan o flaen pum cant a mwy o ferched ac athrawon.
Pob pâr o lygaid arnaf a distawrwydd bythgofiadwy.
Wedi sefyll bron i saith mlynedd am y dydd nid oedd gennyf ofn o gwbl wrth garthu fy ngwddf a datgan y geiriau yn gryf ac eglur.
Nid oedd angen darllen gan imi ymarfer gymaint o weithiau fel y gwyddwn y darn o galon.
Dyna brofiad bendigedig a gefais, wrth i'r geiriau lifo dros fy ngwefusau, a byw pob gair gan ddal sylw hyd yn oed y ferch a'r diddordeb lleiaf ganddi.
Gyda Mai 18, 2002 yn dynesu rwy'n dychmygu rhyw ferch walltddu arall yn cadw, fel y gwnes innau, ei phapur am flynyddoedd maith.
Dyma'r neges a ddarllenais i 32 o flynyddoedd yn ôl:
Cymru'n galw: Dyma Gymru! Bechgyn a merched Cymru yn galw ar fechgyn a merched yr holl fyd ar Ddydd Ewyllys Da. Pan ddaeth Dydd Ewyllys Da 1970 cefais innau fy newis i ddarllen y neges ac rwy'n dal i gofio sefyll ar y llwyfan o flaen pum cant a mwy o ferched ac athrawon.
Pob pâr o lygaid arnaf a distawrwydd bythgofiadwy.
Wedi sefyll bron i saith mlynedd am y dydd nid oedd gennyf ofn o gwbl wrth garthu fy ngwddf a datgan y geiriau yn gryf ac eglur.
Nid oedd angen darllen gan imi ymarfer gymaint o weithiau fel y gwyddwn y darn o galon.
Dyna brofiad bendigedig a gefais, wrth i'r geiriau lifo dros fy ngwefusau, a byw pob gair gan ddal sylw hyd yn oed y ferch a'r diddordeb lleiaf ganddi.
Gyda Mai 18, 2002 yn dynesu rwy'n dychmygu rhyw ferch walltddu arall yn cadw, fel y gwnes innau, ei phapur am flynyddoedd maith.
Dyma'r neges a ddarllenais i 32 o flynyddoedd yn ôl:
Cymru'n galw: Dyma Gymru! Bechgyn a merched Cymru yn galw ar fechgyn a merched yr holl fyd ar Ddydd Ewyllys Da.
Gwlad fechan, fynyddig yw ein gwlad ni, gyda'i llynnoedd dyfnion a'i dyffrynnoedd ffrwythlon; gwlad a chanddi ei hiaith ei hun a honno yn un o ieithoedd hynaf Ewrop.
Drwy gyfrwng yr iaith hon yr anfonwn ni heddiw ein neges. Ac, er i'n hieithoedd fod yn wahanol, gwahoddwn chwi, ein cyd-ieuenctid, i ymuno â ni i gyhoeddi ag un llais ein bod yn mynnu siarad iaith cariad, iaith cyfiawnder ac iaith cymod.Gofynnwn am ddewrder i siarad yr iaith hon yn wyneb trais a gormes, ac mewn ateb i gri'r newynog a'r tlawd. Gofynnwn hefyd am ddewrder i droi ein geiriau yn weithredoedd yn gefnogaeth ymarferol i'r mudiadau sydd eisoes yn ymdrechu i symud achosion rhyfel ac i ddileu ei effeithiau.
Drwy wneud hyn gallwn obeithio am fyd lle na fydd raid i'r un genedl ddioddef gormes gan genedl arall, a lle gwelir gorseddu brawdgarwch yn lle rhyfel, cariad yn lle casineb, a chyfiawnder yn lle trais.
Mwy am y neges eleni

|