Lynda Ganatsiou yn sgrifennu o Thessaloniki
Aelod o deulu urddasol o Thessaloniki oedd Sant Dimitrius.
Yn swyddog yn y fyddin Rufeinig cafodd ei garcharu am fod yn Gristion.
Pan y'i gorfodwyd i gymryd rhan mewn ymladdfa annheg o unochrog rhoddodd gymorth ysbrydol i wr o'r enw Nestor ac oherwydd ei ffydd bu'n fuddugol er mor anghyfartal y gystadleuaeth yn eu herbyn.
Am hyn, dedfrydwyd ef a Nestor i farwolaeth gan y Rhufeiniaid.
Fodd bynnag, cododd y Cristnogion eglwys bwysig er cof amdano yn y fan lle bu farw.
Mae llawer o chwedlau am Dimitrius - ei wyrthiau a'r olew per a darddodd o'i fedd.
Ef yw Nawdd Sant Thessaloniki lle credir ei fod yn gofalu am y dref ar adegau gofidus yn ei hanes - megis rhyfeloedd a daeargrynfeydd.
Hydref 26 yw'r diwrnod y mae trigolion Thessaloniki yn dathlu eu nawddsant. Dyma hefyd y diwrnod y rhyddhawyd y dref o ddwylo'r Twrciaid yn 1912. Felly, mae yma ddathlu dwbwl. Yn ogystal â bod yn achlysur crefyddol y mae iddo hefyd ei arwyddocad gwladgarol.
Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.
Mae'n debyg iawn i gyngerdd Dydd Gwyl Dewi yng Nghymru.
Ond ar y diwrnod ei hun bydd yr ysgolion a'r siopau yn cau ac am unarddeg y bore bydd y plant yn gorymdeithio drwy'r stryd fawr yn eu gwisgoedd swyddogol.
Bydd lle arbennig wedi ei godi i'r bobl bwysig eistedd ac wrth orymdeithio heibio'r rhain bydd y plant yn troi eu hwynebau tuag atynt fel arwydd o barch.
Dathlu ein henawu gyda brandi a gwin! Adnabyddir tymor yr hydref yma fel tymor y "iorton" sef dathlu. Dyma pryd mae'r bobl yn dathlu eu henwau eu hunain yn ogystal â dathlu enw'r nawddsant.
Mae'n adeg pan fo chwarter y wlad yn dathlu eu henwau sef Dimitris y dynion, a Dimitra y menywod!
Noson y dathlu mae'r teulu yn cael "ty agored" gyda chyfeillion yn ymweld i ddymuno "Chronia polla" ( "llawer o flynyddoedd") a Cherese (Llongyfarchiadau).
Mae hwn yn ddiwrnod mawr nid yn unig i'r person sy'n dathlu ond i'w deulu i gyd.
Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.
Gyda hwn, yr ydym yn yfed Brandi Mataxa.
Wedi hynny ceir platiad o wahanol dameidiau o fwyd a gwin i'w yfed.
Yna symudir ymlaen i dy arall lle mae rhywun yn dathlu.
Erbyn diwedd y noson, fel y gellwch ddychmygu, bydd effaith yr holl Metaxa a gwin i'w deimlo! Byddwch yn feddw gaib!
A chredwch fi, mae bron yn amhosib gwrthod gan y byddai hynny'n cael ei ystyried yr amharch mwyaf.
Ac ar ddydd Dimitri gallwch fod yn ymweld a thua deg o deuluoedd.
Ond mae'n amser braf ac yn gyfle i bawb gael sgwrsio, gweld hen ffrindiau, a hyd yn oed wneud ffrindiau newydd.
Mae pethau'n newid Fodd bynnag mae pethau'n newid ac erbyn hyn mae llawer o bobl yn rhy brysur i drefnu "ty agored" onibai mai'r Sadwrn yw dydd y dathlu.
Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.
Mae rhai plant yn mynd â chacennau siocled i'r ysgol i'w rhannu a'u ffrindiau. Weithiau bydd pedwar plentyn o'r un enw - a neb a chwant bwyd wedi dychwelyd adref!
Bydd gweithwyr yn gwneud yr un peth yn eu swyddfeidd.
Os bu marwolaeth yn y teulu nid ydych yn dathlu na chynnal ty agored y flwyddyn honno.
Dydd dweud Na Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.
Mae'r amgylchiad yn cael ei gofio gyda gorymdaith ym mhob tref gyda'r holl luoedd arfog yn cymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion a gwahanol gymdeithasau - pawb yng ngwisg eu hardal.
Bydd hynafgwyr balch a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn eu gwisgoedd Cenedlaethol a'u bronnau wedi eu haddurno â rhesi o fedalau.
Golygfa fythgofiadwy gyda'r baneri yn chwifio yn nwylo'r plant bach. Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.
Y porthladd yn llawn o gychod wedi eu haddurno a baneri ac wrth i'r orymdaith ddirwyn i ben llenwir yr awyr a swn byddarol MIG 16s yn hedfan heibio.
Pawb yn dal ei anadl cyn gadael yn llawn balchder a hunanbarch.
Gellir teimlo rhyw awyrgylch na ellir ei ddisgrifio â geiriau. Nid oes raid siarad. Mae'n brofiad sy'n uno pawb.

|