Gwir ydy'r dywediad, nad erys amser i unrhyw ddyn.
Prin y gallaf gredu fod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers i griw S4C fod yma yn Thessaloniki gyda Hywel Gwynfryn.
Fe fuont yma, yn ffilmio rhai o Gymry Tramor yn byw eu bywydau newydd yma yng ngwlad Groeg, ar gyfer y rhaglen deledu Ar Dy Feic.
A minnau'n bersonol wedi cael y fraint o fod yn un o'r bobol iddyn nhw ffilmio, fe fum yn eu tywys o amgylch tref Thessaloniki yn ystod eu hymweliad.
Fe ddigwyddodd iddyn nhw gyrraedd y noson cyn gwyl mawr y wlad, sef y diwrnod Cenedlaethol pan oedd y ddinas allan yn gwylio gorymdaith fwya'r flwyddyn.
Gorymdaith ydi hon i atgoffa'r ieuanc am ddewrder y dynion fu farw dros eu gwlad.
Ar 28 Hydref 1940 bu i wlad Groeg wrthsefyll yn erbyn Mussolini, a dweud "OXI" (OCHI) neu "NA", gan rwystro'r Eidalwyr rhag cael mynediad i wlad Groeg.
Gwrthod amod olaf gan yr Eidalwyr a wnaethant. Bu hyn yn achos felly i'r wlad hon ymuno yn yr Ail Ryfel Byd.
Gorymdaith anferth Gorymdaith anferth ydy hi, yn parhau dros awr a hanner gan arddangos tanciau mawr, rocedi a dynion y Lluoedd Arfog.
Hefyd mae plant ysgol a phobol yn eu gwisgoedd Cenedlaethol o bob rhan o ardal Macedonia: - yr ardal yr ydym ni yn perthyn iddi.
Eleni, fe ddewisodd George (y gwr) a minnau i beidio â mynd i mewn i'r dref fawr ond i gefnogi tref fechan Thermi (maestref o Thessaloniki).
Fel hyn roeddem yn cael siawns i weld pethau yn fwy manwl.
Byddai'n braf cael sôn ychydig am y wisg genedlaethol, felly.
Wedi i Groeg ddod yn rhydd yng nghwarter cyntaf y 19eg ganrif, dechreuodd dynion y wlad i gyd wisgo'r Ffwsranela.
Oherwydd ei boblogrwydd anghyffredin, mae'r wisg yma wedi dod i fod yn un o'r gwisgoedd traddodiadol mwyaf adnabyddus yn y byd.
Fel cilt yr Alban, mae'r Ffwstanela wedi dod i fod yn symbol o hunaniaeth Roegaidd.
Pob rhanbarth yn wahanol Fel pob gwlad, mae gwlad Groeg wedi ei rhannu yn wahanol ranbarthau: Thrace, Macedonia, Epirus, Thessaly, Canolbarth Groeg, Pelaponnese, Crete, ynysoedd yr Aegean ac ynysoedd Ionia. O ranbarth i ranbarth mae'r wisg yn amrywio.
Ond nid yw'r gwisgoedd sydd i'w gweld ar y diwrnod Cenedlaethol yn mynd y tu hwnt i ddechrau'r 18fed ganrif
Mae gwisgoedd Groegaidd drawiadol ac maen nhw'n tarddu o'r traddodiad hynafol Bysantaidd. Yn wir, mae'r gwisgoedd wedi eu dylanwadu yn gryf gan y traddodiadau yma.
Gellir cysylltu'r mwyafrif ohonyn nhw â ddigwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol. Hefyd, fe all pob gwisg ddarlunio safle personol, cymdeithasol, economaidd, priodasol ac oed person.
Gellir edmygu pob math o waith cywrain poblogaidd mewn un wisg unigol. Gan amlaf mae'r gwisgoedd wedi eu rhannu yn dri categori:
Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn ardaloedd mynyddig. Y rhai sy'n cael eu gwisgo ar y gwastadeddau. Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn yr ynysoedd.
Yna fe all y rhain gael ei rhannu yn ddau is-dosbarth:
a) Y wisg werin. b) Y wisg drefol.
Gwisg y merched : Mae'r gwisgoedd hyn yn amryliw ac yn ddisglair dros ben. Mae rhai yn anghyffredin o drwm ac wedi eu haddurno gan edau aur.
Diddorol ydy gwisg y menywod a gellir eu rhannu yn dau categori. Mae gan y categori cyntaf gysylltiad clir â'r dylanwadau Bysantaidd tra bod gan yr ail nodweddion Bysantaidd ond sydd hefyd wedi ei ddylanwadu'n gryf gan ddiwylliant y gorllewin.
Ym mhob tref fe ddewch o hyd i dri neu bedwar amrywiad eto, o'r un wisg!
Y wisg fwyaf poblogaidd gan y menywod yn y mwyafrif o drefi oedd yr Amalia, a benderfynwyd gan y Frenhines Amalia ei hun. Hi oedd brenhines gyntaf y wlad ond a oedd o dras Bafaraidd.
Gwyrdd oedd lliw sgert yr Amalia yn wreiddiol, ond wedyn fe'i newidiwyd i las. Gwisgir siaced ag iddi lewys hir dros y sgert, a chordyn hir i'r het.
Yn draddodiadol mae hwn yn cael ei wneud gan blethen o wallt y ferch ei hun. Yn ôl traddodiad, yr hiraf oedd y cordyn yna'r mwyaf oedd ffafr y ferch arbennig yma yn llys Amalia!
Gwisgoedd Sofia ac Olga fodd bynnag oedd yn cael eu gwisgo yn y llysoedd brenhinol.
Mae'r wisg fenywaidd fel arfer yn cynnwys y canlynol:
Y Pwcamiso: flows sydd I'w gweld bron ym mhob math o wisg ranbarthol; yna'r ffrog sylfaenol.

|