Yr ydym ni newydd fod yn dathlu ein Dydd Cenedlaethol yma yng Ngwlad Groeg.
Dyma ddiwrnod gorymdaith fwya'r flwyddyn - gorymdaith i goffau'r ieuanc am ddewrder a'r rhai a fu farw dros eu gwlad.
Ar 28 Hydref 1940 bu i wlad Groeg wrthsefyll Mussolini, a dweud "OXI" (OCHI) neu "NA", a rhwystro'r Eidalwyr rhag cael mynediad i wlad Groeg.
Gwrthod amod olaf gan yr Eidalwyr a wnaethant. Bu hyn yn achos felly i'r wlad hon ymuno yn yr Ail Ryfel Byd.
Gorymdaith anferth Mae'n orymdaith anferth o dros awr a hanner gyda thanciau, rocedi a dynion y Lluoedd Arfog.
Hefyd mae plant ysgol a phobol yn eu gwisgoedd Cenedlaethol o bob rhan o ardal Macedonia: - yr ardal yr ydym ni yn perthyn iddi.
Eleni, dewisodd George, fy ngwr, a minnau beidio â mynd i'r dref fawr ond cefnogi tref fechan Thermi (maestref o Thessaloniki).
Byddai'n werth sôn ychydig am y wisg genedlaethol.
Wedi i Groeg ddod yn rhydd yn chwarter cyntaf y 19eg ganrif, dechreuodd dynion y wlad wisgo'r Ffwsranela.
Oherwydd ei phoblogrwydd anghyffredin, daeth y wisg yma yn un o'r gwisgoedd traddodiadol mwyaf adnabyddus yn y byd.
Fel cilt yr Alban, mae'r Ffwstanela yn arwydd o hunaniaeth Roegaidd.
Pob rhanbarth yn wahanol Fel pob gwlad, mae gwlad Groeg wedi ei rhannu yn wahanol ranbarthau: Thrace, Macedonia, Epirus, Thessaly, Canolbarth Groeg, Pelaponnese, Crete, ynysoedd yr Aegean ac ynysoedd Ionia. O ranbarth i ranbarth mae'r wisg yn amrywio.
Ond nid yw'r gwisgoedd sydd i'w gweld ar y diwrnod Cenedlaethol yn hynach na dechrau'r 18fed ganrif.
Mae gwisgoedd Groegaidd yn trawiadol gan darddu o'r traddodiad hynafol Bysantaidd.
Gellir cysylltu'r rhan fwyaf ohonyn nhw â ddigwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol. Hefyd, fe all pob gwisg ddarlunio safle personol, cymdeithasol, economaidd, priodasol ac oed person.
Gellir edmygu pob math o waith cywrain poblogaidd mewn un wisg unigol. Gan amlaf mae'r gwisgoedd wedi eu rhannu yn dri chategori:
Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn ardaloedd mynyddig. Y rhai sy'n cael eu gwisgo ar y gwastadeddau. Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn yr ynysoedd.
Yna gellir eu rhannu i ddau is-dosbarth:
a) Y wisg wledig. b) Y wisg drefol.
Gwisg y merched Mae'r gwisgoedd hyn yn amryliw ac yn ddisglair dros ben gyda rhai yn anghyffredin o drwm ac wedi eu haddurno ag edau aur.
Diddorol ydy gwisg y menywod a gellir eu rhannu yn dau categori. Mae gan y categori cyntaf gysylltiad clir â'r dylanwadau Bysantaidd tra bo gan yr ail nodweddion gorllewinol cvryf hefyd.
Ym mhob tref fe ddewch o hyd i dri neu bedwar amrywiad eto, o'r un wisg!
Y wisg fwyaf poblogaidd gan y menywod yn y rhan fwyaf o drefi oedd yr Amalia, a ddewiswyd gan y Frenhines Amalia ei hun - brenhines gyntaf y wlad ond a oedd a gwreiddiau ym Mafaria.
Gwyrdd oedd lliw sgert yr Amalia yn wreiddiol ond wedyn fe'i newidiwyd i las. Gwisgir siaced ag iddi lewys hir dros y sgert, a chordyn hir i'r het.
Yn draddodiadol mae hwn yn cael ei wneud o blethen o wallt y ferch ei hun. Yn ôl traddodiad, yr hiraf oedd y cordyn yna'r mwyaf oedd ffafr y ferch arbennig yma yn llys Amalia!
Gwisgoedd Sofia ac Olga, fodd bynnag, oedd yn cael eu gwisgo yn y llysoedd brenhinol.
Mae'r wisg fenywaidd fel arfer yn cynnwys y canlynol:
Y Pwcamiso: blows sydd i'w gweld bron ym mhob math o wisgoedd rhanbarthol; yna'r ffrog sylfaenol.
Yr Anteri neu Saias: dilledyn sydd yng nghanol y wisg fel rheol, y ffrog neu fath o gôt o sidanwe. Os digwydd i'r ffrog fod heb lewys, fe'i gelwir yn Tzacos neu Tsiponi.
Y Sigwni neu Giwrdi: dilledyn allanol neu fath o gôt o ddefnydd gwlanog wedi ei wau â llaw.
Y Zwnari : y gwregys
Y Poddia : sef y ffedog. Roedd dau fath yn cael ei wisgo gan y menywod, un syml at waith ty, ac un arall wedi ei frodio ar gyfer digwyddiadau llawen. . Y Caltses neu Tswrargia: sef hosanau wedi eu gwau. Yn dibynnu ar yr ardal, fe allan nhw fod yn lliwgar.
Y Papwtsia: Eto yn dibynnu ar yr ardal gallant fod yn llopanau, â'r pen uchod wedi eu brodio, clocs pren, botasen lledr, neu esgidiau wedi eu gwau.
Y Ceffaloddesimo neu Capelo: gwisg pen boed yn sgarff neu het, yn arferol wedi ei addurno â blodau, yn enwedig yng ngwisg y briodferch. Bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn symbolau o ffrwythlondeb.
Gwisg y dynion: Gwisgwyd y Ffwstanela gan llysgenhadon a rhyfelwyr Groeg yn chwyldro 1812, a heddiw mae'n gwasanaethu fel gwisg swyddogol yr Efzones, sef Gwarchodlu Arlywyddol Groeg.
Gellir gweld y rhain yn gwarchod Bedd y Milwr Anadnabyddus yn y brifddinas, Athens.
Yn wreiddiol gwisg y penaethiaid Groegaidd oedd y Ffwstanela. Fodd bynnag fe gafodd ei newid mewn dim o amser i'w wisgo ar wyliau ac achlysuron llawen.
Mae gwisg y dynion yn cynnwys y canlynol:
Y Pwcamiso: y crys cotwm wen a chanddi lewys llydan iawn sy'n hongian yn llaes.
Y Pandelonineu Ffwstanela: trowsus neu gilt, neu Fraca (llodrau llydan) ar yr ynysoedd.
Ffwstanela ydy'r dilledyn sydd fwyaf adnabyddus o'r wisg Roegaidd ar hyd a lled y byd. Sgert o gotwm gwyn gyda rhyw 400 o blygiadau neu drionglau sy'n cael eu galw yn langolia, sy'n symbol o'r blynyddoedd y bu gwlad Groeg o dan lywodraeth Ottoman. Yna ceir y bwdwri neu'r trowsus oddi tano, sydd hefyd yn wyn.
Y Ieleco : gwasgod wlan o gynllun lleol ac wedi ei haddurno â brodwaith yn llawn o fanylion a phaneli yn hongian wrth ei chwt.
Y Zwnari: gwregys o ledr hardd. . Y Caltses: sanau hirion, gwyn, wedi eu gwau.
Y Tsarwchia: esgidiau a'u blaenau'n troi i fyny gyda phonpom ar y top, neu wahanol fathau o esgidiau.
Y Ffez: neu gwisgir cap du fel arfer, neu hyd yn oed sgarff du, Sarici .

|