gan Lynda Ganatsiou yn sgrifennu o Thessaloniki
Dechreuodd pethau dwymo yn gynnar yng Ngwlad Groeg eleni. Nid yn unig gan fod yr haf crasboeth yr ydych wedi clywed amdano wedi cyrraedd ond, hefyd, oherwydd i Nichols Cage (cipiwr gwobr Oscar) gyrraedd ynys Ceffalonia!
Bu cynnwrf mawr pan gyrhaeddodd ef a Penelope Cruz a'u criw ffilmio ddechrau Mai i ffilmioMandolin Capten Coreli.
Cynhyrchiad uchelgeisiol yn cael ei saethu ym mhentrefi Sami a Fithalia.
Byddant yno tan ddiwedd Awst ond yr oedd sôn o'r cychwyn i Cage gael ei hudo gymaint gan yr ynys ei fod yn bwriadu prynu ty yno!
Bu hyn yn fodd i ddenu llawer o deithwyr yr haf hwn i'r ynys fechan hon ar ochr orllewinol y wlad ym môr yr Ionia. Ta waeth, a hithau'n dymor gwyliau y cwestiwn yw: "I lle yr awn eleni?"
"Rhaid mynd ymhellach na Phorthcawl bid siwr gan i Twm y Post fynd i Torremolinos y llynedd, a Dai Tan y Bryn a'i wraig i Majorca.
Mae'r swyddfeydd teithio yn llawn o lyfrynnau a phamffledi lliwgar - digon i godi cenfigen arnoch.
Ond un peth yr wyf wedi sylwi arno yw bod dau le nad ydynt byth yn cael eu cyhoeddi. Os oes diddordeb gennych - mynnwch baned a darllen yr hanes. . .
Uffern a Nefoedd ywr ddau le.
Un flwyddyn, ymhell yn ôl, ar ddechrau fy nyddiau yng ngwlad Groeg daeth trwydded cadw fy ngar (gyda rhif tramor arni) i ben. Rhaid oedd talu swm mawr o arian i gadw "Betsi".
Arweiniodd hynny at daith i Uffern. . .
Gan fod y swm bron cymaint ag yr oeddwn wedi ei dalu am y car yn y lle cyntaf ymatebais braidd yn negyddol gan dyngu na fyddai'r gyfraith yn cael y gore arnaf.
Yn anffodus, nid oedd hawl gennyf i werthu'r car ond i'r awdurdodau - a hynny am ryw swm bitw.
Mynd i werthu yn Iwgoslafia Wedi fy nghyffroi, ac yn teimlo'n ddicllon penderfynais gyda ffrind or Alban fynd â'r car i'w werth yn yr hen Iwgoslafia. Roeddem ein dwy yn llawn gobaith a heb weld unrhyw rwystr.
Wedi rhai oriau o deithio daeth chwant bwyta felly dyma ni'n sefyll mewn gwesty i archebu rhywbeth.
Nid oedd yn hawdd o gwbwl cyfathrebu ar crwt oedd yn gweini arnom ac nid oedd dim mewn Saesneg ar y rhestr.
Rhyw gymysgedd seimllyd a gawsom ond gan ein bod mor llwglyd 'doedd fawr o ots gennym am hynny!
Wedi llanw'n boliau, dechreusom egluro i'r crwt fod gennyf gar yr hoffwn werthu a chyn bo hir, 'roedd dyn wrth ein bwrdd bwyta yn dangos diddordeb mawr yn Betsi.
Yn anffodus, nid oedd ganddo'r hawl a byddai'n rhaid i'r drafodaeth gymryd lle unwaith yr oedd wedi nosi - a ninnaun gorfod gyrru'r car i'w fodurdy lle byddai'n talu inni ar y farchnad ddu.
Cododd hyn ychydig o fraw arnom. Beth pe byddai'n ein cloi yn y modurdy a'n llofruddio?
A neb yn darganfod ein cyrff am ddiwrnodau.
Neu beth pe byddai yn ein bradychu a dweud wrth yr Heddlu ein bod yn gwerthu ar y farchnad ddu.
Daeth ofn arswydus trosom.
Rhaid oedd dychwelyd at gynllun B.
Rhywun yn ein dilyn Wedi teithio ychydig o filltiroedd dyma sylweddoli fod rhywun yn ein canlyn a dyma fi'n dechrau rasio a llwyddo i'w golli wedi imi yrru fel Nikki Lauder.
Pan ddaethom, o'r diwedd at gae mawr eang penderfynwyd mai'r peth gorau yn awr fyddai gadael y modur yno, llosgi'r papurau a datgysylltu'r rhif fel na fyddai neb yn gwybod o ble y daeth y car a phwy oedd ei biau
Llosgi'r papurau oedd y penderfyniad mwyaf gwallgof a wnes erioed!
Canol haf oedd hi ar cae yn sych ar ôl dyddiau heb law. Angen dwr, nid tân oedd ar y lle! Ond rhy hwyr dyna'r tân yn dechrau ymledu yn afreolaidd.
A ninnau'n tynnu ein siacedi i'w ymladd er mwyn cael dychwelyd i ddiogelwch ein cartrefi gynted a phosib.
Wrth ddefnyddio pob gronyn o nerth daeth pethau dan reolaeth.
A'r peth mwyaf difyr oedd mai dyn tân oedd tad fy ffrind !!!
Er ein bod yn chwys bwdin o wres y tân ar haul didrugaredd arnom yr oeddem yn teimlo i bwysau mawr gael ei godi oddi ar ein hysgwyddau.
Roedd ein hantur bron ar ben 'does bosib.
Nac oedd wir!
Pedwar milwr a gynnau Nid oeddem wedi sylwi ar y pedwar oedd yn cerdded tuag atom.
Y peth nesa oedd, ein bod wedi ein hamgylchynu gan bedwar o filwyr gyda reiffl pob un wedi eu hanelu atom.
Nid oeddem yn deall dim a ddywedwyd ond, "Tito, Tito."
Yr adeg honno, Tito oedd yn rheoli'r wlad.
Dechreusant ein holi, a ninnau'n ateb mewn gwahanol ieithoedd iw drysu.
Lwc mai or Alban yr oedd fy ffrind achos ni allent ddeall ei Saesneg acennog o gwbl.
Dechreuais innau barablu bymtheg yn y dwsin mewn Cymraeg a chwifio fy nwylo, codi fy ysgwyddau a thynnur wynebau mwyaf anneniadol a welsoch erioed.
Yn ara bach fe ddechreusom gerdded oddi yno; a hwythau'n gwneud arwyddion i ni fynd yn ein blaen.
Cerdded i ryw bentre wnaethom, a cheisio ffonio i wlad Groeg.
Buasech yn tybio mai ceisio ffonio pen drawr byd oeddem ni er bod y ddau le y drws nesaf iw gilydd!
Nid oedd modd ffonio'n syth; rhaid oedd i'r galwad fynd i'r brifddinas yn gyntaf ac oddi yno i wlad Groeg.
O'r diwedd cawsom siarad ond roedd y lein yn wael, a ninnaun gweiddi nerth ein pennau.
Mae'n debyg inni gollir tren i Thessaloniki (un y dydd oedd yna) ac felly bu'n rhaid inni gerdded bob cam yn ôl ir ffin. Lwc dda na ddechreuodd yr awdurdodau fan yma holi natur ein hymweliad. Roedd y ffaith taw Prydeinwyr oeddem, yn gadael i ni hwylio dros y ffin o uffern i'r nefoedd.

|