BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Pethau Byw
TACTEG

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Cymru Dysgu
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Anifeiliaid: Esgyrn ac organau
Gweithgaredd
Dalen Ffeithiau
Cwis
Cofia hyn
Y Galon a'r gwaed
  • Mae'r galon yn organ bwysig iawn. Mae'n pwmpio'r gwaed o amgylch y corff.
esgyrn ac organau


  • Mae pibellau gwaed yn cario gwaed o amgylch y corff.

  • Mae rhydwelïau yn cario gwaed o'r galon i organau eraill. Y tu mewn i'r organau, mae'r rhydwelïau yn rhannu'n bibellau llai o'r enw capilarïau.

  • Mae gwythiennau yn cario gwaed o'r capilarïau yn ôl i'r galon.

  • Mae gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy'r rhydwelïau a'r gwythiennau.
Curiad y galon
  • Gwaed yn cael ei bwmpio gan y galon drwy'r rhydwelïau ydy curiad y galon.

  • Mae'r curiad (pwls) yn rhoi mesur o gyfradd curiad y galon (pa mor gyflym mae'r galon yn curo).

  • Mae cyfradd curiad dy galon pan rwyt ti'n gorffwyso yn oddeutu 70 curiad pob munud.

  • Wrth wneud ymarfer corff mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu.

  • Mae'r galon yn curo yn gyflymach yn ystod ymarfer corff ac rwyt ti'n anadlu'n gyflymach.
Cymalau a Chyhyrau
  • Mae arnat ti angen cymalau a chyhyrau i symud.

  • Y man lle mae dau asgwrn yn cwrdd ydy cymal.

  • Mae cyhyrau yn sownd wrth esgyrn. Gallan nhw ond cyfangu (byrhau) neu ymlacio (mynd nôl i'w maint gwreiddiol). Maen nhw'n tynnu ar esgyrn wrth iddyn nhw gyfangu. Maen nhw'n gweithio mewn parau.
esgyrn ac organau

  • Cofia, dydy cyhyrau BYTH yn ymestyn a BYTH yn gwthio.
Clip Fideo
Y galon a sut mae'n gweithio yn y corff
Hyd: 02:30
CA2 Pethau Byw

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy