Mae gwyddonwyr yn aml yn defnyddio allweddau i ddweud pa grŵp mae anifail neu blanhigyn yn perthyn iddo. Gallwn osod anifeiliaid a phlanhigion mewn grwpiau yn ôl gwahaniaethau a thebygrwydd. Nifer o gwestiynau ydy'r allwedd. Mae'r atebion yn helpu i adnabod yr anifail neu'r planhigyn. Y ffordd orau i ddeall hyn ydy rhoi cynnig ar un dy hun. Beth am i ti roi cynnig ar un dy hun:
1. Edrycha ar y lluniau
2. Cymera un anifail ar y tro. 3. Dechreua gyda'r cwestiwn cyntaf, a'i ateb ar gyfer yr anifail hwnnw'n unig. 4. Dilyna'r llinell oddi wrth bob ateb.
Cynefinoedd
Cynefin yw'r enw ar gartref naturiol rhywbeth byw.
Mae cynefinoedd yn gallu bod yn fawr e.e. coedwig, neu'n fach e.e. deilen.
Mae pethau byw wedi addasu i'w cynefinoedd. Mae ganddyn nhw nodweddion arbennig sy'n eu helpu i oroesi. Edrycha ar y lluniau i weld sut mae'r anifeiliaid a'r planhigion yma wedi addasu i'w cynefinoedd.
Mae'r eliffant Affricanaidd yn cadw'n oer drwy ysgwyd ei glustiau mawr a defnyddio ei drwnc i chwistrellu llwch neu ddŵr drosto'i hun.
Mae gan yr hwyaden gopog blu oeliog i ddal dŵr a thraed gweog i nofio.
Mae gan wyddfid flodau sy'n cynhyrchu neithdar i ddenu pryfed er mwyn peillio. Mae'r aeron yn lliwgar er mwyn eu gwasgaru (mae adar yn cael eu denu gan y lliwiau llachar, yn bwyta'r aeron ac yn gollwng yr hadau mewn gwahanol lefydd).
Mae gan gorswellt y tywod wreiddiau hir er mwyn gallu cyrraedd dŵr, a dail tenau i wneud yn siŵr ei fod e ddim yn sychu.
Felly mae anifeiliaid a phlanhigion mewn gwahanol gynefinoedd yn addas i'w hamgylchedd.