CA2 Pethau Byw - Cadwynau bwyd / DosbarthiadauGrwpio pethau byw
Mae gwyddonwyr yn aml yn defnyddio allweddau i ddweud pa grŵp mae anifail neu blanhigyn yn perthyn iddo. Gallwn osod anifeiliaid a phlanhigion mewn grwpiau yn ôl gwahaniaethau a thebygrwydd. Nifer o gwestiynau ydy'r allwedd. Mae'r atebion yn helpu i adnabod yr anifail neu'r planhigyn. Y ffordd orau i ddeall hyn ydy rhoi cynnig ar un dy hun. Beth am i ti roi cynnig ar un dy hun: 1. Edrycha ar y lluniau
2. Cymera un anifail ar y tro. 3. Dechreua gyda'r cwestiwn cyntaf, a'i ateb ar gyfer yr anifail hwnnw'n unig. 4. Dilyna'r llinell oddi wrth bob ateb.
Cynefinoedd
- Cynefin yw'r enw ar gartref naturiol rhywbeth byw.
- Mae cynefinoedd yn gallu bod yn fawr e.e. coedwig, neu'n fach e.e. deilen.
- Mae pethau byw wedi addasu i'w cynefinoedd. Mae ganddyn nhw nodweddion arbennig sy'n eu helpu i oroesi. Edrycha ar y lluniau i weld sut mae'r anifeiliaid a'r planhigion yma wedi addasu i'w cynefinoedd.
- Mae'r eliffant Affricanaidd yn cadw'n oer drwy ysgwyd ei glustiau mawr a defnyddio ei drwnc i chwistrellu llwch neu ddŵr drosto'i hun.
- Mae gan yr hwyaden gopog blu oeliog i ddal dŵr a thraed gweog i nofio.
- Mae gan wyddfid flodau sy'n cynhyrchu neithdar i ddenu pryfed er mwyn peillio. Mae'r aeron yn lliwgar er mwyn eu gwasgaru (mae adar yn cael eu denu gan y lliwiau llachar, yn bwyta'r aeron ac yn gollwng yr hadau mewn gwahanol lefydd).
- Mae gan gorswellt y tywod wreiddiau hir er mwyn gallu cyrraedd dŵr, a dail tenau i wneud yn siŵr ei fod e ddim yn sychu.
Felly mae anifeiliaid a phlanhigion mewn gwahanol gynefinoedd yn addas i'w hamgylchedd.
|