CA2 Pethau Byw - Anifeiliaid: Esgyrn ac organauY Galon a'r gwaed
- Mae'r galon yn organ bwysig iawn. Mae'n pwmpio'r gwaed o amgylch y corff.
- Mae pibellau gwaed yn cario gwaed o amgylch y corff.
- Mae rhydwelïau yn cario gwaed o'r galon i organau eraill. Y tu mewn i'r organau, mae'r rhydwelïau yn rhannu'n bibellau llai o'r enw capilarïau.
- Mae gwythiennau yn cario gwaed o'r capilarïau yn ôl i'r galon.
- Mae gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy'r rhydwelïau a'r gwythiennau.
Curiad y galon
- Gwaed yn cael ei bwmpio gan y galon drwy'r rhydwelïau ydy curiad y galon.
- Mae'r curiad (pwls) yn rhoi mesur o gyfradd curiad y galon (pa mor gyflym mae'r galon yn curo).
- Mae cyfradd curiad dy galon pan rwyt ti'n gorffwyso yn oddeutu 70 curiad pob munud.
- Wrth wneud ymarfer corff mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu.
- Mae'r galon yn curo yn gyflymach yn ystod ymarfer corff ac rwyt ti'n anadlu'n gyflymach.
Cymalau a Chyhyrau
- Mae arnat ti angen cymalau a chyhyrau i symud.
- Y man lle mae dau asgwrn yn cwrdd ydy cymal.
- Mae cyhyrau yn sownd wrth esgyrn. Gallan nhw ond cyfangu (byrhau) neu ymlacio (mynd nôl i'w maint gwreiddiol). Maen nhw'n tynnu ar esgyrn wrth iddyn nhw gyfangu. Maen nhw'n gweithio mewn parau.
- Cofia, dydy cyhyrau BYTH yn ymestyn a BYTH yn gwthio.
|