| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Mae'n bwysig cydweithio os ydych yn aelod o grŵp trafod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio'r pwyntiau yma: Ydych chi wedi...
Weithiau mewn trafodaeth, bydd rhaid i chi holi person arall, gan ofyn cwestiynau er mwyn cael gwybodaeth penodol. Y gadair goch
Weithiau, fe all y person yn y gadair goch esgus fod yn gymeriad arall e.e. Dafydd Elis Tomos (Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Harri Morgan, Mari Jones o'r Bala neu actor teledu neu ffilm. Mewn tasg o'r fath, mae'n bwysig peidio â mynegi eich barn bersonol chi ond yn hytrach y cymeriad yr ydych chi'n esgus ei actio. Fe allwn ni gael hwyl yn gwisgo dillad y byddai'r cymeriad hwnnw'n ei wisgo neu drwy siarad yn union fel y byddai'r cymeriad hwnnw'n ei wneud! Mae'n bwysig ystyried beth yw safbwynt y person, a rhaid meddwl am bwyntiau da i gefnogi'r safbwynt. Cwestiynau agored Cofiwch ei bod yn bwysig gofyn cwestiynau agored hefyd. Mae hyn yn bwysig fel ein bod yn cael gwybod mwy am y pwnc dan sylw. Fe allwch chi ofyn cwestiynau agored tebyg i'r rhain i ddisgybl sy'n esgus bod yn Mari Jones: Roeddech chi wedi cerdded yn bell. Beth oedd yn mynd drwy eich meddwl tra'n cerdded y daith bell honno? Sut oeddech chi'n teimlo pan dderbynioch chi'r Beibl am y tro cyntaf gan Thomas Charles? Mae cwestiynau agored yn gofyn am ymateb sy'n rhoi mwy o wybodaeth na chwestiwn caeëdig. Mae'n rhoi cyfle i'r person sy'n ymateb i siarad mwy - nid yw 'Ie' neu 'Ydw' yn ateb digonol. Cwestiynau caeëdig
Dyma rai cwestiynau agored a chaeëdig y gallech eu gofyn i Harri Morgan: Caeëdig Cofiwch hefyd ymestyn eich ateb drwy ddefnyddio 'oherwydd' neu 'achos'! | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |