| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Pan rydyn ni'n paratoi ar gyfer trafodaeth, mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar safbwyntiau a barn pobl eraill. Gallwn gofnodi'r dadleuon ar daflen syml. Dyma i chi enghraifft o ddadleuon o blaid ac yn erbyn hela llwynogod:
Mae'n bwysig ein bod yn gallu cynnig rhesymau i gefnogi ein safbwyntiau. Gallwn ddefnyddio termau fel 'oherwydd' neu 'achos' er mwyn cyflawni hyn. Cydweithiwch gyda phartner i gwblhau'r brawddegau hyn gan ddefnyddio 'oherwydd' neu 'achos'. Darllenwch nhw i weddill y dosbarth. Gwrandewch ar y drafodaeth radio yma am felinau gwynt. Gwnewch nodiadau tra'n gwrando dan dau bennawd - O Blaid ac Yn Erbyn. Pwy enillodd eich cefnogaeth chi a pham? Oeddech chi'n gallu gweld dwy ochr y ddadl? Trefnu eich dadl Er mwyn cael trefn ar eich dadl, y peth cyntaf i'w wneud ydy dewis cadeirydd. Beth yw rôl Cadeirydd?
Mae'r Cadeirydd yn berson pwysig iawn - mae'n rhaid iddo fe/iddi hi hefyd fod yn berson teg, yn gwneud yn siŵr fod dwy ochr y ddadl yn cael eu clywed. Weithiau, ar ddiwedd y drafodaeth, bydd y Cadeirydd yn dod i benderfyniad neu i gasgliad penodol. Gwaith paratoi
Yn gyntaf... Trwy wneud hyn, mae aelodau eraill y drafodaeth yn gallu dilyn trefn bendant gan ymateb i wahanol safbwyntiau, er enghraifft: Roedd yr ail bwynt yn un diddorol, sef... Rydw i'n anghytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf oherwydd... Dwy ochr y geiniog
Mae'n bwysig i wrando ar gyfraniad pob aelod o'r grŵp. Mae'n rhaid edrych ar y pwyntiau o blaid ac yn erbyn cyn dod i benderfyniad ar y pwnc dan sylw. Mae'n bwysig gwrando ac ystyried pob safbwynt cyn dod i gasgliad. Ar ddiwedd y drafodaeth gallwch wneud un o ddau beth: (1)Peidio â dod i benderfyniad (a derbyn y bydd rhai o blaid a rhai yn erbyn) (2)Cynnal pleidlais i weld faint sydd o blaid a faint sydd yn erbyn. Beth am fynd ati i drafod Gwersyll Llangrannog. Dilynwch y camau yma: | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |