BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Trafodaeth
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Iaith trafod a dadlau
Dalen Ffeithiau
Iaith trafod a dadlau

Mae defnyddio iaith dda er mwyn trafod yn bwysig iawn. Rydyn ni'n defnyddio iaith swyddogol er mwyn bod yn benodol ynglŷn â beth sydd gennym ni i'w ddweud. Dyma enghreifftiau o ddechrau brawddegau addas y gallwch chi eu defnyddio tra'n cynnal trafodaeth:

  • Yn fy marn i...
  • Rydw i'n cytuno â...
  • Dydw i ddim yn cytuno â...
  • Y cwestiwn yw...
  • A dweud y gwir...
  • Mae lle i gredu
  • Mae pawb yn gwybod bod...
  • Pe bawn i'n y sefyllfa yna, fe fyddwn i...
  • O ganlyniad...
  • Pe byddai ... wedi...
  • Credaf fod...
  • Mae gwir angen...
  • Ar un llaw...
  • ar y llaw arall...
  • Mae'n gas gen i...
  • Heb amheuaeth...
  • Mae'n rhaid sylweddoli...

Gallwch chi ddefnyddio ymadroddion hefyd er mwyn datblygu eich trafodaeth ymhellach. Dyma rai enghreifftiau i chi:

  • Heb os nag oni bai...
  • Heb flewyn ar dafod...
  • Yn bendant...

Iaith trafod a dadlauWeithiau, rydyn ni angen defnyddio brawddegau negyddol, hynny yw, dweud nad ydych chi'n cytuno gyda rhyw farn neu safbwynt penodol.




Dyma rai enghreifftiau i chi:

Iaith trafod a dadlau

Defnyddio'ch llais

Iaith trafod a dadlau

Mae'n bwysig amrywio tôn a goslef y llais pan rydych chi'n cyfrannu i drafodaeth. Dydych chi ddim am i bawb fynd i gysgu pan rydych chi'n siarad! Defnyddiwch lais pendant a dywedwch beth sydd gennych chi i'w ddweud yn gadarn! Mae defnyddio'ch wyneb i greu ystyr yn help pan rydych chi'n cyflawni hyn!

Defnyddiwch rai o'r brawddegau uchod i'ch helpu chi i drafod y testun hwn:

Mae dau blentyn, tad a mam a taid a nain yn byw yn yr un tŷ a does ond un set deledu yno.
Mae pawb yn hoffi rhaglenni gwahanol: e.e.

1. Plant - Rownd a Rownd/Bôrd
2. Dad a Mam - Clwb Garddio
3. Taid a Nain - Tipyn o Stad


Trafodwch: Pwy ddylai gael yr hawl gyntaf ar y teledu? Sut mae gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gyfle a bod neb yn teimlo ei fod yn cael cam?



CA2 Creu Trafodaeth

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy