BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Trafodaeth
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Beth yw trafodaeth?
Dalen Ffeithiau
Beth yw Trafodaeth

Trafodaeth yw sgwrs am bwnc penodol rhwng dau neu fwy o bobl lle mae cyfle i fynegi barn ac efallai dod i gytundeb. Gall trafodaeth ddigwydd yn naturiol neu fod wedi ei drefnu.

Byddai'r byd yn lle diflas ond tawel iawn pe bai pawb yn cytuno gyda'i gilydd ar bob pwnc o dan haul!

Beth yw TrafodaethMae pob math o drafodaethau i'w clywed ym mhob man, er enghraifft:

  • yn y dosbarth
  • ar y buarth
  • yn y cartref
  • ar y stryd
  • ar y teledu

Mae ychydig o wahaniaethau rhwng ffrae, dadl a thrafodaeth. Ond, mae nodweddion sy'n gyffredin iddyn nhw i gyd.

Beth yw Trafodaeth

Mae'n debyg eich bod chi i gyd wedi ffraeo neu ddadlau gyda'ch brawd neu'ch chwaer neu ffrind rhywbryd neu gilydd. Fel arfer, mae'r ffrae neu'r ddadl am bethau digon dibwys, er enghraifft, pa raglen deledu i'w gwylio neu faint o'r gloch mae amser gwely! Mae'n digwydd ar hap ble nad oes neb yn poeni am baratoi'r ffrae neu'r ddadl.

Ar y llaw arall, mae'n rhaid trefnu trafodaeth ffurfiol, gan baratoi yn ofalus.

Dyma beth ydyn ni'n ei wneud gan amlaf yn yr ysgol:

Beth yw Trafodaeth

Pan rydyn ni'n trafod pwnc penodol, mae'n bwysig ein bod ni ddim yn gwylltio ac yn mynd dros ben llestri pan rydyn ni'n anghytuno gyda barn rhywun arall!

Sut mae cynnal trafodaeth mewn ffordd synhwyrol?

Mae'n bwysig cyn dechrau unrhyw drafodaeth ein bod yn paratoi'n ofalus. Sut allwn ni wneud hyn?

Gwneud gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth

Mae paratoi ar gyfer trafodaeth yn bwysig. Does dim pwrpas mynegi barn am destun neu bwnc penodol oni bai eich bod yn sicr o'ch ffeithiau o flaen llaw. Sut allwn ni wneud hyn tybed?

Beth yw Trafodaeth
  • darllen llyfrau gwybodaeth, pamffledi ac adroddiadau papurau newydd.
  • defnyddio'r rhyngrwyd er mwyn casglu gwybodaeth am wahanol bynciau.
  • Mae'n bwysig ein bod yn darllen gwahanol ffynonellau fel ein bod yn cael dwy ochr i'r pwnc.
  • darllen gwybodaeth yn gyflym i ddechrau gan edrych eto yn ofalus ar y wybodaeth yr ydyn ni'n ei ystyried sydd fwyaf perthnasol.
  • uwchliwio neu wneud nodiadau byr am y ffeithiau pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio pwyntiau bwled i gyflwyno'r wybodaeth yn glir ac yn gryno.

Bydd hyn o gymorth mawr wedyn pan fyddwch chi'n trafod.

Gwrandewch ar y drafodaeth mewn llys yma ynglŷn â chymdogion swnllyd. Mae'r drafodaeth bron a mynd yn ffrae! Ydych chi'n gallu gweld dwy ochr y ddadl? Trafodwch!

clip sain


CA2 Creu Trafodaeth

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy