
Mae defnyddio iaith dda er mwyn trafod yn bwysig iawn. Rydyn ni'n defnyddio iaith swyddogol er mwyn bod yn benodol ynglŷn â beth sydd gennym ni i'w ddweud. Dyma enghreifftiau o ddechrau brawddegau addas y gallwch chi eu defnyddio tra'n cynnal trafodaeth:
- Yn fy marn i...
- Rydw i'n cytuno â...
- Dydw i ddim yn cytuno â...
- Y cwestiwn yw...
- A dweud y gwir...
- Mae lle i gredu
- Mae pawb yn gwybod bod...
- Pe bawn i'n y sefyllfa yna, fe fyddwn i...
- O ganlyniad...
- Pe byddai ... wedi...
- Credaf fod...
- Mae gwir angen...
- Ar un llaw...
- ar y llaw arall...
- Mae'n gas gen i...
- Heb amheuaeth...
- Mae'n rhaid sylweddoli...
Gallwch chi ddefnyddio ymadroddion hefyd er mwyn datblygu eich trafodaeth ymhellach. Dyma rai enghreifftiau i chi:
- Heb os nag oni bai...
- Heb flewyn ar dafod...
- Yn bendant...
Weithiau, rydyn ni angen defnyddio brawddegau negyddol, hynny yw, dweud nad ydych chi'n cytuno gyda rhyw farn neu safbwynt penodol.
Dyma rai enghreifftiau i chi:

Defnyddio'ch llais

Mae'n bwysig amrywio tôn a goslef y llais pan rydych chi'n cyfrannu i drafodaeth. Dydych chi ddim am i bawb fynd i gysgu pan rydych chi'n siarad! Defnyddiwch lais pendant a dywedwch beth sydd gennych chi i'w ddweud yn gadarn! Mae defnyddio'ch wyneb i greu ystyr yn help pan rydych chi'n cyflawni hyn!
Defnyddiwch rai o'r brawddegau uchod i'ch helpu chi i drafod y testun hwn:
Mae dau blentyn, tad a mam a taid a nain yn byw yn yr un tŷ a does ond un set deledu yno.
Mae pawb yn hoffi rhaglenni gwahanol: e.e.
1. Plant - Rownd a Rownd/Bôrd
2. Dad a Mam - Clwb Garddio
3. Taid a Nain - Tipyn o Stad
Trafodwch: Pwy ddylai gael yr hawl gyntaf ar y teledu? Sut mae gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gyfle a bod neb yn teimlo ei fod yn cael cam?