CA2 Creu Trafodaeth - Gweithio fel grŵp

Mae'n bwysig cydweithio os ydych yn aelod o grŵp trafod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio'r pwyntiau yma:

Ydych chi wedi...

  • gwrando ar eich gilydd?
  • ymateb i gyfraniadau eich gilydd?
  • dechrau eich brawddegau'n wahanol ac yn ddiddorol?
  • rhoi cyfle i bob aelod o'r grŵp gyfrannu?
  • gofyn cwestiynau i'ch gilydd?
  • ychwanegu at gyfraniadau eich gilydd?
  • mynegi eich barn yn glir?
  • dod â'r wybodaeth at ei gilydd?
  • dod i benderfyniad terfynol?

Weithiau mewn trafodaeth, bydd rhaid i chi holi person arall, gan ofyn cwestiynau er mwyn cael gwybodaeth penodol.

Y gadair goch

Gweithio fel grŵpEr mwyn holi'r person hwnnw, fe allwn ei holi tra ei fod yn eistedd mewn cadair arbennig - sef y gadair goch.

Weithiau, fe all y person yn y gadair goch esgus fod yn gymeriad arall e.e. Dafydd Elis Tomos (Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Harri Morgan, Mari Jones o'r Bala neu actor teledu neu ffilm.

Mewn tasg o'r fath, mae'n bwysig peidio â mynegi eich barn bersonol chi ond yn hytrach y cymeriad yr ydych chi'n esgus ei actio. Fe allwn ni gael hwyl yn gwisgo dillad y byddai'r cymeriad hwnnw'n ei wisgo neu drwy siarad yn union fel y byddai'r cymeriad hwnnw'n ei wneud!

Mae'n bwysig ystyried beth yw safbwynt y person, a rhaid meddwl am bwyntiau da i gefnogi'r safbwynt.

Cwestiynau agored

Cofiwch ei bod yn bwysig gofyn cwestiynau agored hefyd. Mae hyn yn bwysig fel ein bod yn cael gwybod mwy am y pwnc dan sylw.

Fe allwch chi ofyn cwestiynau agored tebyg i'r rhain i ddisgybl sy'n esgus bod yn Mari Jones:

Roeddech chi wedi cerdded yn bell. Beth oedd yn mynd drwy eich meddwl tra'n cerdded y daith bell honno?

Sut oeddech chi'n teimlo pan dderbynioch chi'r Beibl am y tro cyntaf gan Thomas Charles?

Mae cwestiynau agored yn gofyn am ymateb sy'n rhoi mwy o wybodaeth na chwestiwn caeëdig. Mae'n rhoi cyfle i'r person sy'n ymateb i siarad mwy - nid yw 'Ie' neu 'Ydw' yn ateb digonol.

Cwestiynau caeëdig

Cwestiynau caeëdigMae cwestiynau caeëdig ar y llaw arall yn gofyn am ymateb syml a byr . Yn aml, mae 'Ie' neu 'Ydw' yn ddigonol. Maen nhw'n ffordd dda o gael gwybodaeth mewn ffordd syml ac uniongyrchol.

Dyma rai cwestiynau agored a chaeëdig y gallech eu gofyn i Harri Morgan:



Caeëdig
Wyt ti'n hoffi hwylio ar longau? (presennol) Ydw/Nac ydw
Agored
Pam?
Caeëdig
Wyt ti wedi casglu llawer o drysor? (gorffennol) Do/Naddo
Agored
Dywedwch fwy wrthyn ni am y trysor!
Caeëdig
Oes barn bendant gen ti am ddwyn trysor? (presennol) Oes/ Nac oes
Agored
Beth ydy'r farn honno?
Caeëdig
Oeddet ti wedi mwynhau'r daith ar y llong? (gorffennol) Oeddwn/Nac oeddwn
Agored
Pam?
Agored
Beth oedd y pethau da/pethau nad oedd cystal am y daith?
Caeëdig
Ydy pob môr-leidr mor gas â chi? Ydy/Nac ydy
Agored
Beth tybed sy'n gwneud môr-ladron yn gas? Dywedwch fwy wrthyn ni!

Cofiwch hefyd ymestyn eich ateb drwy ddefnyddio 'oherwydd' neu 'achos'!

News image