| Eleni, gyda'i bartner Aled Jones, Lastra, cerdded o Aberdaron i Amlwch - 55 milltir oedd y gamp. Gadael Aberdaron am 7 o'r gloch y bore a chyrraedd Amlwch ychydig cyn 5 o'r gloch, 9 awr 56 munud o gerdded. Eleni mae'r arian a gasglwyd trwy noddi a rhoddion yn cael eu rhannu at Ysgol y Bont, Llangefni; Uned Anghenion Arbennig, Ysgol Biwmares, ac at Cameron Jones, bachgen sy'n dioddef o'r cancr. Dros y blynyddoedd mae Nige wedi casglu bron i £20,000 ac mae'n hynod ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth. Arwyddair Nige yw -
Os oes gennych iechyd a ffitrwydd. Defnyddiwch nhw er lles eraill.
A rhowch wen ar eu gwynebau. Arwyddair addas i bawb ohonom yn siŵr.
 |