Yn ffodus iawn, roedd yr haul yn tywynnu a chafwyd prynhawn arbennig o braf yn ystod y daith ac yna yn y seremoni wrth feini'r Orsedd yn Ysgol Syr Thomas Jones.
Cychwynnodd yr orymdaith o'r Ysgol Gynradd gyda Band Porthaethwy'n arwain ac roedd yn cynnwys y Derwydd Gweinyddol, Cyn-Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Robyn Llŷn; aelodau o Orsedd Môn, Cyflwynydd yr Aberthged, Plant y Ddawns Flodau, gwahoddedigion, swyddogion pwyllgorau lleol, cynrychiolwyr o Eisteddfod Môn Llandegfan ac unrhyw un arall a oedd yn dymuno ymuno yn yr orymdaith. Yna cafwyd Seremoni'r Cyhoeddi ar dir Ysgol Syr Thomas Jones. Siôn Roberts a Gruffydd Owen oedd cludwyr Baner yr Orsedd. Yn ystod y seremoni, roedd y Derwydd Gweinyddol, Huw Goronwy'n trosglwyddo'r awenau i'r Derwydd newydd, Eurfon. Canwyd Cân y Croeso gan Haf Wyn gyda'i wyres, Ellen Ann.
Darllenwyd y Proclamasiwn gan Gofiadur yr Orsedd, Evan. Yn ystod y seremoni urddwyd saith o aelodau newydd i'r Orsedd gan gynnwys o'r ardal yma, Evie Jones, Llannerch-y-medd i'r Wisg Werdd a Siân a Ken Owen, Marian-glas i'r Wisg Las.
Cyflwynwyd yr Aberthged gan Anys Jones gyda phlant Ysgolion Cynradd Amlwch, Carreg-lefn, Moelfre a Rhosybol yn aelodau o'r Ddawns Flodau. Datganwyd yr Arawd gan Robyn Llyˆn ac estynnwyd croeso i bawb i Eisteddfod Môn Bro Llandegfan a gynhaliwyd yr wythnos ddilynol gan Bill Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac rhoddwyd gwahoddiad i Eisteddfod Gadeiriol Môn 2009 gan Alwen Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Amlwch a'r Cylch. Hefyd, cyflwynodd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Derwydd Gweinyddol. Mae'r Rhestr Testunau ar werth ar hyn o bryd - am 50c yn unig - rhywbeth at ddant pawb. Eisteddfod Môn
 |