| Buont ar ei bwrdd yn sgwrio'r dec, yn troi y llyw ac yn gwrando ar Mr Peter Williams yn sôn am glymu'r rhaffau mewn gwahanol ffyrdd.
Dangoswyd ffilm iddynt o fywyd ar long debyg tua 500 mlynedd yn ôl a'r plant yn cael cyfle i deimlo'r gloch ac astudio'r map a'r cwmpawd.
Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Diolch i Robin am y cyfle unigryw yma.
 |