Ym mis Mehefin bu'n chwarae mewn gêm Grŵp UEFA Pencampwriaeth Ewrop dan 21 oed yn erbyn Ffrainc yn Grenoble, y tîm sy'n ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth yma. Yn anffodus colli fu hanes Cymru o un gôl i ddim ond derbyniodd Owain glod uchel gan ei reolwr, Brian Flynn am ei berfformiad. Er hyn, mae cyfle o hyd iddynt fynd ymlaen yn y gystadleuaeth gyda gemau i ddod yn erbyn Malta, Bosnia-Herzegovina a Romania. Mae Owain sy'n 20 oed yn wyr i Mr a Mrs John Edwin Williams, Llys Owain,Stryd Salem, Amlwch a mab Jane a Dafydd Williams, Penygroes. Mae ei dain a'i nain a'i deulu Amlwch yn falch iawn o'i lwyddiantl Yn gôl-geidwad proffesiynol gyda Crewe Alexandra mae esioes wedi ennill nifer o gapiau dan 21, 19 a 17 oed dros ei wlad. Pob lwc i ti Owain yn dy yrfa fel pêldroediwr.
 |