BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 09 Mai 2008
Harry a Dave: Brwydr y rheolwyr
Harry Redknapp a Dave Jones

Gohebydd Pêl Droed BBC CymruIan Gwyn Hughes sy'n tynnu llinyn mesur dros yrfaoedd dau reolwr gwahanol iawn eu natur fydd yn mynd ben ben a'u gilydd yn Wembley

HARRY REDKNAPP: Y cocni hoffus

Blwyddyn yn ôl i fis Hydref diwethaf roedd Portsmouth newydd fynd i frig Uwchgynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth yn erbyn Charlton yn y Valley.

Yn naturiol wedi'r gêm roedd angen cyfweliad gyda'r rheolwr. Ond, yn anffodus, roedd Redknapp yn ymwybodol o'r ffaith bod rhaglen Panorama'r BBC a'r fin darlledu honiadau yn ei erbyn.

"Dyma'r tro olaf fyddai'n sgwrsio gyda'r BBC," meddai wrthyf cyn cytuno i wneud y cyfweliad. Ac am bron i 18 mis fe gadwodd at ei air.

Roedd Harry bob tro mor barod i gyfrannu, boed hynny ar ôl buddugoliaeth neu golled ac roedd yn gwbl agored, yn onest ac yn barod i ddweud ei ddweud.

Heb os mae o yn un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar yn y byd pêl droed. Gan ei fod yn gymeriad mor dyna paham y buaswn i yn dychmygu y byddai y rhan fwyaf o gefnogwyr niwtral am i Portsmouth guro Caerdydd yn y rownd derfynol yn Wembley.

Chwarae i West Ham wnaeth Redknapp , gan ddysgu ei grefft ar Barc Upton yng nghyfnod euraidd y clwb gyda chwaraewyr fel Bobby Moore, Geoff Hurst a Martin Peters.

Fel rheolwr fe wnaeth enw i'w hyn y tro cyntaf pan yng ngofal clwb Bournemouth gan greu sioc anferth yn nhrydedd rownd Cwpan Lloegr gyda buddugoliaeth dros Manchester United yn Dean Court. Yn yr hen drydedd adran oedd Bournemouth ar y pryd ac fe aeth un o'r sgorwyr, Steve Thompson, ymlaen yn ddiweddarach yn ei yrfa i chwarae dros Ferthyr.

Ac mae o'n parhau yn agos iawn i Bournemouth. Pan oedd y clwb mewn trafferthion ariannol enbyd fe ddatgelodd y byddai'n fodlon camu i'r adwy gydag arian o'i boced ei hun pe bai yna fygythiad go iawn i ddyfodol y clwb.

Fe gafodd lwyddiant yn West Ham pan aeth yno fel rheolwr, gan werthu a phrynu chwaraewyr yn ddyddiol bron, a phrin fod y term Saesneg 'wheeler and dealer' yn fwy addas. Cafodd ei frifo'n awr pan fu'n rhaid iddo adael y clwb oedd mor agos i'w galon.

Serch hynny mae Redknapp wedi rhagori wrth y llyw yn Portsmouth ar ôl ennill dyrchafiad o'r bencampwriaeth cyn hwylio'r clwb i sefydlogrwydd cyson yn yr Uwchgynghrair. Ond yn ei gadeirydd Milan Mandaric, fe ddaeth Redknapp wyneb yn wyneb a chymeriad lliwgar ar y naw ac roedd y berthynas rhwng y ddau yn un tanllyd.

Ymddiswyddodd Redknapp ac aeth lawr y ffordd at yr hen elyn Southampton. Er ymdrechu'n galed, fe fethodd a'u cadw yn yr Uwchgynghrair.

Rŵan, mae cryn dipyn o atgasedd rhwng y ddau glwb ar arfordir de Lloegr ac fe synnwyd pawb pan gyhoeddodd ei fod yn gadael St Mary's ac yn dychwelyd i Portsmouth mewn ymdrech i'w cadw nhw yn yr Uwchgynghrair.

Roedd hi'n edrych yn dasg amhosib ond fe lwyddodd ac ers y dyddiau hynny mae'r clwb wedi ei drawsnewid i fod yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf cyson yn yr Uwchgynghrair. Yn y gorffennol y nod oedd aros i fyny. Bellach aros ymhlith y ceffylau blaen sy'n hawlio lle yn Ewrop yw'r flaenoriaeth.

Mi fydd Redknapp yn gwireddu breuddwyd personol wrth arwain ei dim allan yn Wembley. Ac fe fydd yr achlysur yn gysur i'w gwr oedd nhyb nifer yn haeddu cyfle i lenwi swydd rheolwr Lloegr yn sgil ymadawiad Steve McLaren. Rhesymau ac ystyriaethau tu allan i'r cae pêl droed, efallai, oedd yn gyfrifol am iddo beidio â chael ei ystyried o ddifrif.

Ond mewn cyfnod pryd mae'r hyfforddwyr tramor megis, Benitez, Wenger, Grant yn ogystal â Ferguson yn hawlio'r clod a'r sylw mi fyddai cipio Cwpan Lloegr yn Wembley yn erbyn Caerdydd yn dod a gwen anferth i wyneb y cocni hoffus.

DAVE JONES: Y sgowsar penderfynol

Rhai blynyddoedd yn ôl roedd Stockport County a Wrecsam ymysg y ceffylau blaen yn yr hen drydedd adran, sy'n cyfateb ag adran un y dyddiau hyn.

Roedden nhw'n cael eu cydnabod fel clybiau oedd yn chwarae pêl droed ymosodol, deniadol a chyffrous. Wrth y llyw roedd dau reolwr ifanc oedd yn ceisio creu argraff - Dave Jones yn Stockport ac yn Wrecsam, Brian Flynn.

Dave Jones

Erbyn hyn mae Stockport yn un o dimau gorau'r ail adran o dan Jim Gannon a does dim angen son am yr hyn sydd wedi digwydd i Wrecsam.

Ond o dan Jones aeth Stockport ymlaen i ennill dyrchafiad i'r ail adran, y bencampwriaeth heddiw a chyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Gynghrair. Yn y gôl roedd Paul Jones aeth ymlaen i ddisgleirio dros Gymru.

Amddiffynnwr gydag Everton oedd Dave Jones ac wedi gwasanaethu ar Barc Goodison aeth ymlaen i chwarae dros Coventry a Preston. Bu'n rhaid rhoi r gorau iddi oherwydd anaf, cyn cael cyfnod allan o'r gêm fel gweithiwr cymdeithasol.

Yn sgil ei lwyddiant yn Stockport doedd hi fawr o syndod fod timau mwy wedi dod ar ei ôl ac aeth i dde Lloegr i ddod yn rheolwr ar glwb Southampton.

Sefydlodd y clwb fel tim digon anodd ei curo yn yr Uwchgynghrair ond yn anffodus oherwydd honiadau di-sail ynglŷn â digwyddiadau tu hwnt i bêl-droed fe gollodd ei swydd ar y Dell mewn modd dychrynllyd. Yn naturiol ddigon, roedd Jones yn ddig gan ei fod yn gwbl di euog.

Wedi cyfnod anodd ar y naw y tu allan i'r gêm dychwelodd fel rheolwr ar Wolverhampton Wanderers gan lwyddo i'w harwain i'r Uwchgynghrair, camp a brofodd tu hwnt i allu Graham Turner, Mark Mghee a Graham Taylor. Yn anffodus byr fu'r arhosiad ac yn fuan iawn wedi dychwelyd i'r Bencampwriaeth fe gollodd ei swydd.

Wedi ymadawiad Lennie Lawrence fe gyrhaeddodd Jones glwb y brif ddinas a does dim dwywaith fod y cyfnod wedi profi'n un anodd a rhwystredig ar brydiau oherwydd diffyg arian ac adnoddau. Caiff hyn ei amlygu yn ei berthynas tymhestlog gyda rhai aelodau o'r wasg leol.

Am gyfnod yn ystod ei dymor cyntaf roedd Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth ac yn edrych yn sicr o gyrraedd y gemau ail gyfle cyn boddi wrth ymyl y lan. Y tymor hwn, er i'r tim gyrraedd Wembley bu o fewn dim i golli ei swydd.

Wedi rhediad aflwyddiannus a gyda rhai o'r cefnogwyr yn dechrau anesmwytho, roedd ganddo ddwy gêm yn ol bob son i wella pethau - Ipswich gartref a Leicester City i ffwrdd.

Enillwyd un a chafwyd gem gyfartal yn y llall ac wrth i'r rhediad yng Nghwpan Lloegr roi cyfle i Gaerdydd chwarae yn Wembley ddwywaith o fewn chwe wythnos, prin yw'r sawl sy'n fodlon beirniadu Jones bellach.

Felly ar 17 Mai am ryw ddeng munud i dri mi fydd Dave Jones yn arwain Caerdydd allan ar y maes yn y stadiwm enwog. Go brin y byddai unrhyw un wedi rhagweld hynny yn ystod hanner amser yn y gêm yn erbyn Chasetown yn y drydedd rownd.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy